Olrheiniai ei ach o Elystan Glodrydd. Symudasai un o'i hynafiaid o Gefnllys i Fochdre, ac ymsefydlodd ei dad yn y Drenewydd. Canwyd ei glodydd gan Lewis Glyn Cothi, Llawdden, a Guto'r Glyn, a phwysleisir cyfoeth ei wleddoedd a'i haelioni i'r beirdd. Ymddengys fod Hywel Swrdwal yn fath ar fardd teulu iddo, a bu ef farw ychydig o flaen ei noddwr. Ei wraig oedd Gwenllian ferch Maredudd ab Owain ap Gruffudd ab Einion, arglwydd y Tywyn. Bu iddynt ddau fab a merch - Rhys, Robert, ac Elen.
Yr oedd yn ysgwïer i Edward IV, ac yn ystiward iddo yng Nghydewain, Ceri, Cyfeiliog, ac Arwystli. Bu hefyd yn llywodraethwr castell Trefaldwyn. Collwyd ef ym mrwydr Danesmore neu Fanbri, 1469. Canodd Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd gywydd sy'n awgrymu bod ansicrwydd am ei dynged wedi'r frwydr. O'i enw ef y cafodd Prysiaid y Drenewydd eu cyfenw. Gwraig Rhys oedd Margaret ferch Ieuan ab Owain ap Maredudd, Neuaddwen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.