Ganwyd mewn ffermdy o'r enw Pibwr Llwyd, ger tref Caerfyrddin. Cafodd addysg dda, a bwriadwyd ei ddwyn i fyny yn arlunydd fel ei ewythr, ond bu'r ewythr farw. Agorodd ysgol yng Nghaerfyrddin a bu yno am gyfnod. Symudodd i Ferthyr Tydfil i gadw ysgol, ac arhosodd yno am 15 mlynedd. Aeth am ychydig i Machen, Mynwy, i gadw ysgol, ond dychwelodd i Ferthyr. Yn 1850 aeth i Bontypridd i gadw ysgol, ac oddi yno i Drefforest lle y treuliodd weddill ei oes. Cymerai ddiddordeb mewn cerddoriaeth yn ieuanc, a daeth yn gerddor a datganwr (bass) rhagorol. Cadwodd ddosbarthiadau cerddorol ym Merthyr a Phontypridd, a chodwyd to o gerddorion drwyddynt. Ef oedd yr arloeswr yng nghanu corawl Merthyr a'r cylch, ac enillodd y côr dan ei arweiniad wobrwyon eisteddfod y Fenni yn y blynyddoedd 1838 i 1845. Yn eisteddfod y Fenni, 1838, dyfarnwyd iddo y wobr am draethawd ar 'Gwahanol Beroriaethau Cymru a'r Iwerddon,' ac yn 1840 am draethawd ar 'Yr hanes gorau o Delyn Gwent a Morgannwg'; cyhoeddwyd y traethawd yn y Cambrian Journal, 1855. Yn 1845 dug allan ei gasgliad o alawon Cymreig dan yr enw Y Caniedydd Cymreig, yn cynnwys 104 o alawon Cymreig, a darnau eraill o'i waith ei hun, gyda geiriau Cymraeg a Saesneg. Ysgrifennodd i'r gwahanol gylchgronau, a dywedir iddo gynorthwyo Thomas Stephens yn y bennod ar gerddoriaeth yn ei Literature of the Kymry. Bu farw 30 Mehefin 1871, a chladdwyd ym mynwent Glyntaf, Trefforest.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.