THOMAS, DAVID JOHN ('Afan '; 1881 - 1928), cerddor

Enw: David John Thomas
Ffugenw: Afan
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1928
Rhiant: Evan Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: William Evans

Ganwyd 15 Ebrill 1881 yng Nghwmafan, Morgannwg, yn fab i Evan Thomas (arweinydd côr) a'i briod (a oedd yn gantores ac yn ferch i Dafydd Nicholas, yntau'n gerddor gwybodus). Yn ifanc fe ddysgodd ganu'r ffidil a'r piano, ac yn ddiweddarach yr organ yn un o eglwysi Bournemouth ac yn eglwys gadeiriol Llandaf. Cafodd lawer athro cerddorol, yn eu plith Dr. Joseph Parry yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Bu am 25 mlynedd yn organydd yn Bethesda, Briton Ferry. Arweiniodd ddau gôr meibion, y Brython, a'r ' Afan Glee Society.' Yn 1920 ymunodd â'r gerddorfa Gymreig fel canwr ffidil, ac arweiniai gerddorfa leol. Bu'n llwyddiannus fel cyfansoddwr yn yr eisteddfod genedlaethol, a pherfformiwyd ei weithiau yng nghyngerdd yr eisteddfod: yn Abertawe; 1926, ac Aberafan, 1932. Ei waith mwyaf uchelgeisiol oedd ei faled i gôr a cherddorfa ar eiriau Syr Henry Newbolt, ' He fell among thieves,' a ganwyd yn Aberafan. Cyfansoddodd gantata, ' Merch y Llyn,' ar eiriau Watcyn Wyn. Er cymaint nifer a medrusrwydd ei ran-ganau a'i ddarnau offerynnol, ei bethau mwyaf poblogaidd yw ei unawdau a'i emyn-donau. Cyhoeddodd yr unawdau canlynol: ' Smile a Little,' ' Drosom Ni,' ' Rock of Ages,' ' Land of the Silver Trumpets,' ' Eiluned,' ' Cymru Fach i Mi,' ' Suogân,' a ' Beth wna Ddyn '; a gadawodd ar ei ôl dros gant mewn llawysgrif. Cyhoeddodd hefyd ddau gasgliad o'i emyn-donau yn dwyn y teitl Eirin Afan, i a ii; ceir ei donau yn ein llyfr emynau hefyd; ac y mae 60 eraill heb eu cyhoeddi. Gwreiddioldeb oedd nodwedd amlycaf y cerddor hwn a'i gerddoriaeth. Bu farw 13 Mai 1928, a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf, Cwmafan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.