THOMAS, JOHN (1886 - 1933), cemegwr

Enw: John Thomas
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1933
Priod: Olive Thomas (née Morgan)
Rhiant: Elizabeth Thomas (née Morris)
Rhiant: Richard Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cemegwr
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Thomas Campbell James

Ganwyd 2 Ebrill 1886 yn Whitford, Sir y Fflint, mab Richard Thomas, gof, ac Elizabeth (Morris) ei wraig. Symudodd y teulu i Harlech a bu'r mab yn Ysgol y Bwrdd, Harlech, ac yn ysgol ganolraddol Abermaw cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1904, gydag ysgoloriaeth Syr Alfred Jones. Graddiodd yn 1907 gydag anrhydedd (y dosbarth cyntaf) mewn cemeg. Gwnaeth waith ymchwil o dan yr athro J. J. Sudborough gan ennill ei M.Sc. a chael un o ysgoloriaethau ymchwil ' 1851 ' i fynd i Goleg y Drindod, Caergrawnt, lle y gwnaeth ychwaneg o waith ymchwil o dan Syr William Pope. Yn 1911 dewiswyd ef yn gemegwr i wneuthur gwaith ymchwil yn adran awyrennol y National Physical Laboratory. Y flwyddyn ddilynol symudodd i Ardeer, Sgotland, i weithio dros y Nobel's Explosives Company. Yno gwnaeth waith ymchwil pwysig ar elfennau ffrwydrol ac enillodd hyn iddo radd D.Sc. Prifysgol Cymru. Yn 1918 dewiswyd ef yn brif gemegwr Solway Dyes, Limited, Carlisle (Scottish Dyes Limited yn ddiweddarach); daeth yn gyfarwyddwr llywodraethol y cwmni yn nes ymlaen. Yr oedd ynddo mewn modd arbennig gyfuniad o allu dyn busnes a threiddgarwch gwyddonydd hynod ddisglair. Llwyddodd i gyfrannu'n helaeth iawn i ddatblygiad y diwydiant lliwiau ym Mhrydain, yn enwedig yng ngwneuthuriad y lliwiau mwyaf eu parhad yn yr adran a enwir yn 'indanthrone.' Yr oedd iddo gyfran gyda'r rhai cyntaf i ddarganfod y lliw a elwir yn 'Caledon Jade Green,' a bu wedi hynny yn gweithio ar liwiau glas yn yr un gyfres; yr oedd yn un o'r darganfyddwyr pennaf yn y diwydiant arbennig hwn. Pan gymerwyd ei gwmni ef drosodd gan Imperial Chemical Industries (yn 1926), daeth Thomas yn gydgyfarwyddwr llywodraethol y ' Dyestuffs Group,' gan ddal y swydd hyd ei farwolaeth ar 18 Ionawr 1933.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.