THOMAS, ARTHUR SIMON ('Anellydd '; 1865 - 1935), clerigwr a llenor

Enw: Arthur Simon Thomas
Ffugenw: Anellydd
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1935
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 5 Medi 1865 yng Nghrug-y-bar, Caeo, yn fab i D. Simon Thomas. Graddiodd (1897) yng Ngholeg Dewi Sant, ac urddwyd yn 1894 a 1895. Bu'n gurad yn Llanwynno, Llandeilo Fawr, Llan-gors, a S. Nicholas yn nhref Penfro, cyn cael bywiolaethau S. Michaels (tref Penfro), 1907-10; Maesmynus a phlwyfi eraill cyfagos, 1910-21; S. Nicholas a Granston yn Sir Benfro, 1921-8; a Threfilan, 1928. Bu farw 3 Mawrth 1935. Yr oedd yn llenor ac eisteddfodwr anarferol ddiwyd; sgrifennodd i'r Geninen, Y Traethodydd, Yr Haul, a'r Llenor; bu'n olygydd cynorthwyol Y Llan ac yn gydolygydd Yr Haul; cyfansoddodd (a chyfieithodd) lawer o emynau yn y ddwy iaith, yn eu plith drosiadau o emynau Ann Griffiths.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.