THOMAS, WILLIAM (1832 - 1911), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: William Thomas
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1911
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd 26 Mawrth 1832 yn Nhroedrhiwfelen, plwyf Llangiwc, Sir Forgannwg. Ni chafodd nemor ddim addysg yn ei ddyddiau cynnar. Yr oedd ei rieni'n aelodau yng Nghwmllynfell, a derbyniwyd yntau yn aelod yno yn 8 oed. Ymroes yn ddiwyd i'w ddiwyllio'i hun drwy ddarllen, ysgrifennu, a dysgu cerddoriaeth; cadwai ysgol gân yn ifanc ar y Gwrhyd. Dechreuodd bregethu yng Nghwmllynfell dan weinidogaeth Rhys Pryse yn 1848; ymarferodd i fywyd cyhoeddus drwy fod yn athro yn yr ysgol, a thraddodi anerchiadau yn yr eglwys a'r cylch. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Aberhonddu, 1852-55. Llafuriodd yn galed yn ei gwrs. Urddwyd ef yn weinidog Soar a Bethel, y Tŷ-gwyn-ar-Daf, 25 a 26 Rhagfyr 1855. Tyfodd yr achos yn fuan dan ei weinidogaeth; aeth Soar yn rhy fach i'r gynulleidfa ac adeiladwyd y Tabernacl. Enillodd ei le fel arweinydd mewn mudiadau dirwestol, addysgol, gwleidyddol, a chrefyddol. Yr oedd yn Rhyddfrydwr eiddgar ac yn Ymneilltuwr cadarn. Ysgrifennai i gylchgronau a newyddiaduron a chyhoeddodd amryw o lyfrau a phamffledau - Hanes Diwygiadau yn Iwerddon; Hynafiaethau yr Hen Dŷ Gwyn ar Dâf. Ei brif waith llenyddol oedd Cofiant … Rhys Pryse, Cwmllynfell , 1872. Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1890. Ymddeolodd yn 1908, a bu farw 26 Mawrth 1911.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.