TOY, HUMFREY (bu farw 1575), marsiandwr yn nhref Caerfyrddin.

Enw: Humfrey Toy
Dyddiad marw: 1575
Priod: Jane ferch David ap David
Plentyn: Robert Toy
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: marsiandwr
Place: Caerfyrddin
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: William Llewelyn Davies

Argraffwyd Testament Newydd (Salesbury) a Lliver Gweddi Gyffredin (yr esgob Richard Davies) yn Llundain yn 1567 gan Henry Denham ‘at the costes and charges of Humfrey Toy.’ Er bod llyfrwerthwr pwysig yn Llundain o'r enw Humfrey Toy yn y cyfnod hwn — bu'n is-warden y ‘Worshipful Company of Stationers ' — awgrymwyd mai ewythr y Llundeiniwr oedd y noddwr arbennig hwn, sef Humfrey Toy, Caerfyrddin, marsiandwr a chyweiriwr crwyn; cofier, serch hynny, i Salesbury fyw am gyfnod yn 1567 yn nhŷ Toy y Llundeiniwr. Heblaw y Testament a'r Llyfr Gweddi argraffwyd trydydd llyfr yn 1567 — ‘Imprinted at London by Henry Denham for Humfrey Toy.’ Y llyfr hwnnw oedd A playne and a familiar Introduction, teaching how to pronounce the letters in the Brytishe tongue, now commonly called Welshe. Ail argraffiad oedd hwn o waith gan Salesbury. Ar ddiwedd y rhagair, sydd yn annerch Humfrey Toy, ceir y geiriau hyn: ‘Soiourning at your house in Paules Churchyard; the 6, of Maij, 1567. Your, assuredly, welwyller, W. Salesbury.’ Rhaid felly benderfynu mai Toy Llundain oedd yn gyfrifol am y ‘costes and charges.'

Ceir rhai manylion am Humfrey Toy, Caerfyrddin, a'i ewyllys yn Transactions of the Carmarthenshire Antiquarian Society and Field Club, xi, 76-7. Y mae'n amlwg ei fod yn berchen llawer o eiddo yn nhref a Sir Gaerfyrddin. Byddai'n sicr o adnabod yr esgob Richard Davies pan oedd hwnnw'n byw yn Abergwili (sydd ar bwys Caerfyrddin), a daeth, yn ddiau, i adnabod William Salesbury, pan ddaeth y cyfieithydd i aros gyda'r esgob. Gadawodd yn ei ewyllys (a wnaethpwyd 1 Mawrth 1575 ac a brofwyd 2 Mai 1575) y swm o £20 i'w dalu i rywun a draddodai bregeth neu ddarlith hyn a hyn o weithiau am flwyddyn — weithiau yn Saesneg ac ar brydiau yn Gymraeg. Ceir cyfeiriad ato mewn dogfennau swyddogol mor gynnar â 1542/3; bu'n faer Caerfyrddin yn 1557. Priododd Jane, ferch David ap David (a oedd yn faer yn 1523), a bu iddynt lawer o blant. Gadawodd arian hefyd i helpu sefydlu ‘Free School’ yng Nghaerfyrddin, ac yr oedd y nai yn Llundain ymhlith y llawer a dderbyniodd les o dan yr ewyllys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/