Ganwyd yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin, mab i amaethwr. Ychydig amser wedi geni'r mab etifeddodd y tad stad fechan gerllaw Aberystwyth, ac ymsefydlodd yno. Anfonwyd y mab i ysgol Rhuthyn ac oddi yno i Goleg S. Ioan, Rhydychen, lle yr ymaelododd fis Ionawr 1733 (B.A. 1736, M.A. 1739, D.D. 1755). Daeth yn gurad S. Stephen's yn 1737 ac yn rheithor All Saints, Bryste, yn 1739.
Yn ei gyfnod cynnar ym Mryste, yr oedd Tucker yn wrthwynebol iawn i'r Methodistiaid; cyhoeddodd ymosodiad arnynt yn 1739, a atebwyd gan John Wesley yn 1742. Ond erbyn rhyfel 1756-63 yr oedd pethau wedi newid. Edrydd dyddlyfr cynulleidfa Forafaidd Bryste, dan 3 Awst 1759, fod Howel Harris (a oedd ym Mryste ar y pryd gyda'i filisia) wedi cael llythyr gan Tucker (bellach yn ddeon) yn pwyso ar 'the religious people,' h.y. Methodistiaid a Morafiaid a'u tebyg, 'to stand up against the invader.' Ac y mae llythyr gan Tucker yng nghasgliad Trefeca - 2258, dyddiedig 12 Awst 1759.
Ar 13 Gorffennaf 1758 dewiswyd ef yn ddeon Caerloyw. Amlygodd Tucker ddiddordeb byw mewn materion gwleidyddol ac economyddol pan oedd ym Mryste a pharhaodd trwy gydol ei oes i gyhoeddi llyfrau a phamffledi i fynegi ei olygiadau. Yr oedd ei Elements of Commerce and Theory of Taxes, 1755, yn un o'r cynigiadau cyntaf i ysgrifennu traethawd cynhwysfawr ar economeg wedi ei seilio ar egwyddorion cyffredinol. Yn hwn yr oedd yn symud ymlaen tuag at safbwynt 'laissez-faire,' e.e. yn ei gondemniad o fonopolïau - rhai cartrefol a rhai yr ystyrid eu bod yn hybu masnach dramor. Ond nid oedd yn ddigon dyfal a dygn yn ei ddadansoddiad, ac yr oedd yn rhy chwannog i wyro oddi wrth ei destun er mwyn trin materion amherthynasol. Yn 1763 dinoethodd ynfydrwydd y syniad o fyned i ryfel fel moddion i ehangu masnach dramor, a phroffwydodd y byddai i goncwest Canada wanhau'r gadwyn o hunan-les a rwymai'r trefedigaethau Americanaidd wrth Brydain Fawr. Pan gododd anawsterau gyda'r trefedigaethwyr, dadleuodd dros roddi iddynt annibyniaeth wleidyddol gyfan gwbl; mynnai ef fod masnach rhwng gwledydd yn seiliedig ar gydnabod ei bod o fantais i'r naill ochr a'r llall ac y byddai i Brydain Fawr ennill yn hytrach na cholli trwy gydnabod annibyniaeth America. Serch hynny, nid oedd Tucker yn bleidiwr diamodol i 'laissez-faire.' Credai ef fod eisiau i'r wladwriaeth weithredu i gadw'r boblogaeth, e.e. trwy galonogi ymfudo, gwneuthur tramorwyr yn ddineswyr Prydeinig, a deddfu i gosbi diogi a hyrwyddo cynnydd cynnyrch. Amherir yn fynych ar ei weithiau gan y duedd ynddynt i fod yn ddadleugar ac yn wasgarog. Bu farw 4 Tachwedd 1799.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.