Bydd yn hwylus ddelio gyda'i gilydd â phedwar gŵr o'r cyfenw hwn sydd ill pedwar yn y D.N.B.
(1) Johannes Wallensis (fl. 1215), dysgawdr ar y gyfraith ganon ym mhrifysgol Bologna CrefyddAddysg;
yr unig awgrym o'i Gymreigrwydd yw ei gyfenw.
(2) Johannes Wallensis (bu farw 1285?);
gweler yr ysgrif arno dan ' Johannes.'
(3) Thomas Wallensis (bu farw 1255), Brawd Llwyd, ac esgob Dewi Crefydd;
y mae'n sicr, ar ei air ef ei hunan, ei fod yn Gymro. Yr oedd yn un o bedwar athro cyntaf y Brodyr Llwydion yn Rhydychen, a chan Roger Bacon a Robert Grosseteste air da iddo (Little, Studies in English Franciscan History, 194-5). Penodwyd ef yn esgob Dewi, 16 Gorffennaf 1247, cysegrwyd ef 26 Gorffennaf 1248, a bu farw 11 Gorffennaf 1255.
(4) Thomas Wallensis (bu farw 1350?), Brawd Du Crefydd,
a fu dan addysg yn Rhydychen a Pharis. Cyhuddwyd ef o heresi yn 1332 (gan y Brodyr Llwydion), ond daeth yn rhydd. Yr oedd yntau'n sgrifennwr toreithiog, a chan iddo sgrifennu ar yr un testunau'n union â ' Johannes Wallensis ' - a'i fwriad yntau ar hyfforddi pregethwyr - nid annaturiol fu i weithiau'r naill Gymro gael eu priodoli i'r llall (a gweithiau cyffelyb gan awduron eraill i'r naill neu'r llall) - cymh. llyfr A. G. Little (uchod) â llyfr G. R. Owst, Medieval Preaching in England (mynegai), sy'n rhoi llawer mwy o amlygrwydd i Thomas nag i Johannes. Y mae Thomas yn ei ddisgrifio'i hunan fel 'hen ŵr tlawd, dan y parlys,' yn 1349, a thybir iddo farw yn 1350.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.