Ganwyd yn Cefnfaes, Congl-y-wal, Blaenau Ffestiniog, o rieni a ddaethai o ardal Margam, Sir Forgannwg.
Dechreuodd anfon englynion i'w cyhoeddi yn Y Gwladgarwr pan oedd tua 19 oed. Yn 1852 cyhoeddodd Lloffyn y Gweithiwr, sef Awdlau a Chaneuon ar wahanol Destynau. Yr un flwyddyn (neu 1853?) ymfudodd i U.D.A., gan ymsefydlu fel chwarelwr yn Hydeville, Vermont, a pharhau i gyfansoddi englynion a phenillion a'u hanfon i'r Cenhadwr Americanaidd a'r Drych. Yn 1872 cyhoeddodd Caniadau Ionoron, yn cynnwys Awdlau, Cywyddau, Englynion, a Phennillion (Utica). Daeth ei gerdd 'Bedd fy Nghariad' yn bur boblogaidd - gweler hi yn Blodeugerdd W. J. Gruffydd, t. 51.
Bu farw Mawrth 1884 yn Fairhaven, Vermont, U.D.A. - 'yn 64 oed' yn ôl Blackwell.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.