WHITE, JOHN (1590 - 1645), Piwritan

Enw: John White
Dyddiad geni: 1590
Dyddiad marw: 1645
Rhiant: Henry White
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Piwritan
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: David Williams

Ganwyd 29 Mehefin 1590, mab Henry White, Henllan ('Hentland'), plwyf Rhoscrowther, Sir Benfro. Yr oedd yn disgyn o deulu o farsiandwyr yn Ninbych-y-pysgod; dywedir i Thomas White, aelod o'r teulu hwnnw, gynorthwyo Harri Tudur i ffoi i Lydaw yn 1471. Ymaelododd John White ym Mhrifysgol Rhydychen, o Goleg Iesu, 20 Tachwedd 1607; derbyniwyd ef i'r Inner Temple 6 Tachwedd 1610, gwnaethpwyd ef yn fargyfreithiwr ar 19 Mehefin 1618, a daeth yn ' bencher ' yn 1641. Yn 1625 cododd ef ac un dyn ar ddeg arall gronfa i brynu degymau a gymerasid oddi ar y rhai a arferai eu cael. Yr amcan ydoedd darparu i gael gweinidogion a oedd yn barod i bregethu; cymerwyd arian y gronfa oddi arnynt, fodd bynnag, gan lys yr Exchequer. Daeth White yn aelod seneddol dros Southwark yn 1640. Yn 1642 ef oedd aelod mwyaf blaenllaw y Committee for Plundered Ministers, sef y pwyllgor a droai allan o'u bywiolaethau y clerigwyr hynny a bleidiai'r brenin. O'r profiad hwn y deilliodd ei lyfr, The First Century of Scandalous and Malignant Priests, 1643, sydd yn cynnwys hanes cant o gyfryw offeiriaid. Enillodd y llyfr hwn iddo y llysenw ' Century White.' Bu farw 29 Ionawr 1645, a chladdwyd ef yn y Temple Church, Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.