WHITFORD, RICHARD (bu farw 1542?), offeiriad ac awdur

Enw: Richard Whitford
Dyddiad marw: 1542?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

credir ei fod yn frodor o Chwitfford yn Sir y Fflint; yr oedd gan ewythr o'r un enw ag ef diroedd yno ac yn yr Hôb, a adawodd (gyda thiroedd eraill, yn Lancashire) i'w nai John Edwards, frawd ei chwaer, ac ymddengys mai aelod arall o'r teulu oedd yr Hugh Whitford a oedd yn rheithor Chwitfford yn 1537-60. Aeth Richard i Queens' College yng Nghaergrawnt yn 1495, a chafodd gymrodoriaeth yno yn 1497 (daliodd hi hyd 1504), pryd yr aeth i'r Cyfandir yn gaplan gyda'r arglwydd Mountjoy. Gan fod yr ysgolhaig enwog Erasmus yn athro i Mountjoy, tyfodd cyfeillgarwch rhwng Erasmus a Whitford — cyfaill mawr i'r ddau oedd Syr Thomas More, ac y mae gennym lythyrau a basiodd rhwng y tri. Daeth Erasmus gyda Mountjoy a Whitford i Loegr, a bu'n tario beth amser gyda Whitford yn Rhydychen a Chaergrawnt — odid nad ei breswyl dros dro yn Rhydychen y pryd hwn a barodd i Anthony Wood ddweud mai myfyriwr yn Rhydychen oedd Whitford. Tua 1500 penodwyd ef yn gaplan i Richard Foxe, esgob Winchester, serch nad oedd ganddo, i bob golwg, farn uchel am Foxe (dylid dweud bod y D.N.B. yn amau dilysrwydd ymosodiad ar Foxe a briodolir iddo). Yn 1507, ymunodd â chwfaint Syon House yn Isleworth (cwfaint o leianod, ond yr oedd yno ychydig ganoniaid o gyffeswyr a chaplaniaid); yno eisoes yr oedd ei ewythr Richard Whitford, a fu farw yno yn 1511 — gweler y dyfyniad o'i ewyllys yn Archæologia Cambrensis, 1880, 221, ond prin y gellir derbyn y nodyn ar waelod y ddalen. Bwriodd Richard (ieu.) ei dymor yn y cwfaint yn sgrifennu llyfrau defosiwn ar gyfer y lleianod, ond cafodd y llyfrau gryn gylchrediad y tu allan i'r muriau hefyd. Pan ymwelodd cennad y brenin â Syon House (1534) i chwilio am achos dros ei ddiddymu, gwrthsafodd Whitford ef yn eofn. Ond diddymwyd y cwfaint yn 1539, ac o hynny allan cafodd Whitford nawdd gan Mountjoy. Yr oedd yn fyw yn 1541; ond mewn copi o un o'i lyfrau yn Lambeth, o dan y geiriau ‘the olde wretched brother of Syon,’ chwanegodd llaw gyfoes y geiriau ‘ob. an. Dni. 1542’; gellid meddwl felly mai yn 1542 y bu farw, serch bod rhai'n credu iddo fyw bron hyd ddiwedd oes Mari frenhines.

Rhydd y D.N.B. restr o 16 o lyfrau a gyhoeddwyd ganddo; chwanegodd yr archddiacon A. O. Evans bedwar llyfr arall. Y pwysicaf i ni yw ei gyfieithiad Saesneg o Imitatio Thomas à Kempis (noder fodd bynnag mai i Jean Gerson y priodola Whitford y llyfr). Yn 1556 y cyhoeddwyd y cyfieithiad dan enw Whitford, ond yr oedd wedi ymddangos yn ddi-enw mor gynnar â 1531 ac wedi ei ailargraffu bedair gwaith yn y cyfamser. Barnai Ronald Bayne (awdur yr ysgrif yn y D.N.B. arno) fod trosiad Whitford ‘in style and feeling the finest rendering into English of the original.’

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/