WILLIAMS, ANNA (1706 - 1783), bardd

Enw: Anna Williams
Dyddiad geni: 1706
Dyddiad marw: 1783
Rhiant: Zachariah Williams
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Gwyn Jones

Ganwyd yn Rosemarket, Sir Benfro, merch Zachariah Williams. Aeth i Lundain gyda'i thad c. 1727 a byw yno heb fod ganddynt rhyw lawer at eu cynhaliaeth; am gyfnod bu'n byw gyda'i thad yn y Charterhouse, a chan fod hynny yn groes i'r rheolau gorfodwyd i'r tad ymadael oddi yno. Erbyn 1740 yr oedd bron â bod yn gwbl ddall ond llwyddodd i'w chynnal ei hun trwy waith ei nodwydd. Cyhoeddwyd yn 1746 ei chyfieithiad o fywyd yr ymherodr Julian gan Bleterie. Aeth yn hollol ddall ar ôl cael triniaeth llawfeddygol yn 1752 eithr cyn hyn yr oedd wedi ennyn diddordeb dyngarol y Dr. Samuel Johnson, a rhoes ef lety iddi am gyfnodau hir hyd ddiwedd ei hoes. Cyhoeddwyd ei Miscellanies in Prose and Verse yn 1766; rhoes y Dr. Johnson beth cymorth iddi gyda'r gwaith hwn. O'r amser hwn ymlaen gwaethygodd ei hiechyd a bu farw 6 Medi 1783. Rhoddwyd yr ychydig eiddo a adawodd ar ei hôl i'r Ladies' Charity School. Y mae'n amheus ai hyhi a ysgrifennodd bopeth a briodolid iddi; ychydig, yn wir, sydd o haeddiant ynddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.