Ganwyd 18 Chwefror 1796 yn y Gelligoch, Is-garreg, tua milltir a hanner o Fachynlleth ar y ffordd i'r Dderwenlas, mab Hugh Williams a'i wraig Elinor (Evans). Bu Azariah Shadrach fyw gyda'r teulu am gyfnod (c. 1801) ac yn gweithredu fel athro a'r plant. O'r plant hyn, bu JOHN WILLIAMS yn gyfreithiwr yn Verulam Buildings, Gray's Inn Road, Llundain, o 1829 ymlaen; daeth WILLIAM WILLIAMS yn is-gapten yn llynges : Brazil (bu farw yn 1832); a phriododd CATHERINE ANNE WILLIAMS, Mai 1840, â'r gwladweinydd Richard Cobden, y daeth i'w adnabod trwy fod mewn ysgol gyda chwiorydd Cobden. Yr oedd y tad yn fasnachwr coed ym Machynlleth o 1799 ymlaen; yr oedd hefyd yn cymryd diddordeb mewn ymgymeriadau diwydiannol. Aflwyddiannus fu ei ymdrech i ddatblygu diwydiant llechi yn Nhanybwlch eithr yn gynnar ar ôl 1815, mewn partneriaeth a John Pughe, Aberdyfi, trawodd yn y Dylife, 10 milltir o Fachynlleth, ar wythien gyfoethog o blwm. Ar ôl ei farw (fe'i claddwyd 19 Mai 1852) prynwyd holl hawliau yr anturiaeth gan bartneriaeth oedd Cobden a John Bright yn perthyn iddi.
Derbyniwyd Hugh Williams gan y King's Bench, Gwyl Fihangel, 1822 (gall mai ei frawd a enwyd eisoes, oedd y John Williams a dderbyniwyd yn 1823). Yr oedd Hugh Williams yn perthyn o bell i William Jones, clerc tref Caerfyrddin, a hyn a barodd iddo ymsefydlu yn y dref honno, serch na ddaethant yn bartneriaid fel y disgwylasid iddynt. Bu'n gyfreithiwr yng Nghaerfyrddin o 1822 hyd 1842 ac wedyn yng Nghaerfyrddin a lleoedd eraill yn y gymdogaeth hyd ei farw. Yn ôl y warant a gafwyd i chwilio llythyrau yn 1843, yr oedd ganddo gyfeiriad yn 65, Hatton Gardens, Llundain; yn ddiweddarach dywedir fod ganddo swyddfa yn 4, Verulam Buildings. Priododd (ni wyddys pryd) ag Anne Jones, Plwmp-coch, Cydweli, gwraig 25 mlynedd yn hyn nag ef. Yr oedd ganddi hi stad fechan o'r enw Gardde yn S. Clêr, rhan ohoni ar les 99 blwyddyn. Ceisiodd Williams amryw weithiau dorri'r les, ac yn erbyn ewyllys ei wraig daeth â chyngaws (a drodd yn fethiant) yn erbyn y perchennog, ym mrawdlys Caerfyrddin yng ngwanwyn 1842. Cafodd feddiant o'r eiddo maes o law a phan fedyddiwyd plentyn gordderch iddo (Eleanor Margaret Anne; ganwyd 16 Tachwedd 1847, merch Mary Jenkins) ar 1 Gorffennaf 1849, disgrifir y tad fel cyfreithiwr yn y Gardde. Yn 1851 daeth yn faer ('port-reeve') S. Clêr; yn yr un flwyddyn adeiladodd ef a'i wraig neuadd farchnad yn S. Clêr a cheisio (eithr heb fawr o lwyddiant) sefydlu marchnad yno. Daeth yn gofiadur S. Clêr, yn 1853, ac ar waethaf llawer protest o 1867 ymlaen oblegid ei absenoldeb o'r fwrdeisdref, llwyddodd i gadw'r swydd hyd ei farw. Bu ei wraig farw yn Llanfihangel Abercywyn 5 Awst 1861; ddeufis wedi hynny, 9 Hydref 1861. priododd, yng nghapel Buckingham (Bedyddwyr) Clifton, ag Elizabeth Anthony, Llansaint, a oedd 39 mlynedd yn iau nag ef. Disgrifir ef ar y pryd fel yn byw yng Nglan-y-fferi. Ganed eu plentyn cyntaf 30 Gorffennaf 1862, ond bu farw yn faban; felly hefyd eu hail fab y flwyddyn ddilynol. Ganed y trydydd mab, Hugh Dafydd Anthony Williams, yng Nglan-y-fferi 28 Mai 1869 a bu farw yn Llundain 15 Mai 1905. Ganed y pedwerydd mab, WILLIAM ARTHUR GLANMOR WILLIAMS, yng Nglan-y-fferi, 19 Medi 1873 (flwyddyn cyn marw'r tad); cafodd ei addysg yn Clifton a Sandhurst, daeth yn swyddog yn y South Wales Borderers, enillodd y D.S.O. yn Ne Affrica, a lladdwyd ef 8 Tachwedd 1900, yn rhyfel y Boeriaid. Bu Hugh Williams farw 19 Hydref 1874 yn Cobden Villa, Ferryside, a chladdwyd ef ym mynwent S. Ishmael, Ferryside. Ailbriododd ei weddw; bu hi farw 25 Chwefror 1909.
Y mae Hugh Williams yn bwysig oblegid ei gysylltiadau â mudiadau y Siartwyr a Beca. Yn weddol gynnar ar ei yrfa daeth yn gyfeillgar a Henry Hetherington a James Watson, dau o'r deuddeg a luniodd y ' People's Charter.' Yn 1836, yng Nghaerfyrddin, trefnodd y cyfarfod radicalaidd cyntaf yn Ne Cymru. Etholwyd ef yn warcheidwad y tlodion o dan y ' Poor Law Amendment Act,' 1834; gwrthwynebodd drefniadau'r ddeddf honno yn bybyr iawn. Ar 9 Ionawr 1838 etholwyd ef yn aelod mygedol o'r ' London Working Men's Association.' Ym mis Rhagfyr 1838 bu'n annerch cyfarfodydd y Siartwyr mewn gwahanol leoedd, a dewiswyd ef yn gynrychiolydd canghennau Caerfyrddin, Abertawe, a Merthyr Tydfil yng nghonfensiwn cenedlaethol y ' Working Men's Association,' eithr ni allodd fyned yno hyd 10 Mai 1839 oherwydd prysurdeb gwaith. Rhoes ei wasanaeth yn ddi-dâl o blaid Siartwyr Llanidloes ym mrawdlys y Trallwng, fis Gorffennaf. 1839 yw'r flwyddyn sydd ar ei National Songs and Poetical Pieces, dedicated to the Queen and her Countrywomen, a argraffwyd gan Hetherington - eithr y mae nodiadau ar ddiwedd y gyfrol wedi eu dyddio 18 Chwefror 1840. Casgliad o ganiadau radicalaidd ydyw'r gwaith, amryw ohonynt o waith Williams ei hunan. Yn 1841, pan garcharwyd Hetherington, rhoes Williams fenthyg arian i Thomas Powell i brynu'r fusnes, a drosglwyddwyd yn ôl i Hetherington ar ei ryddhad. Ar waethaf ei olygiadau politicaidd llwyddodd i'w ethol yn 1841 am yr ail waith yn aelod o gyngor tref Caerfyrddin.
Rhoddwyd gormod o bwyslais ar weithgarwch Williams yn ystod gwrthryfel Beca yn 1843 a 1844. Bu'n amddiffyn terfysgwyr Talog ym mis Gorffennaf 1843 a therfysgwyr Pontarddulais hwythau ym mis Medi'r un flwyddyn. Bu'n annerch llawer o gyfarfodydd yn Hydref y flwyddyn 1843 ac yn llunio'r petisiynau i'w hanfon ganddynt i'r frenhines. Ond yr oedd yn llawdrwm iawn ar weithrediadau nosawl y terfysgwyr. Ac eto, ym mis Hydref 1843, rhoes y Swyddfa Gartref yn Llundain orchymyn i agor a darllen ei lythyrau ac yn 1844 yr oedd yr awdurdodau yn cadw llygad manwl arno. Dywedwyd yn fynych iddo golli ei drwydded cyfreithiwr ond nid oes dystiolaeth o gwbl dros hynny. Yn 1846 bu'n flaenllaw iawn yn yr ymosod ar y deddfau yd (a ddiddymwyd 23 Mai 1846).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.