WILLIAMS, JOHN (1854 - 1921), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Williams
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1921
Priod: Edith Mary Williams (née Hughes)
Rhiant: Jane Williams (née Rowlands)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Hughes

Ganwyd 24 Rhagfyr 1854 yn Cae'r-gors, Llandyfrydog, sir Fôn. Hanoedd ei dad, John Williams, o gymdogaeth Mynydd y Garn, a'i fam, Jane Rowland, o Gemaes. Symudodd y teulu pan oedd ef yn 9 oed i Fiwmares. Yno yn 1871 aeth i'r ysgol ramadeg a gedwid gan John Evans, ac wedyn gan Hugh Williams (1843 - 1911). Dechreuodd bregethu yn 1873 ac yn 1875 aeth i Goleg y Bala o dan Dr. Lewis Edwards. Yn 1878 daeth i fugeilio eglwys Brynsiencyn. Enillodd boblogrwydd yn fuan fel pregethwr a chadwodd ef hyd ei fedd. Yn 1895 symudodd i Prince's Road, Lerpwl. Yn 1899 priododd ag Edith Mary Hughes; ganwyd iddynt fab a dwy ferch. Ymddeolodd o ofal bugeiliol yn 1906 a dychwelodd i Fôn gan wneud ei gartref yn Llwyn Idris, Brynsiencyn. Bu farw 1 Tachwedd 1921, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfaes ger Biwmares. Meddai ar bersonoliaeth hardd, llais a pharabl cryf a chroyw, iaith gyfoethog, dychymyg byw, crebwyll treiddgar, a huodledd digymar. Cydnabyddid ef fel y meistr mwyaf ar areithyddiaeth glasurol yn y pulpud Cymreig. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd, 1907; llywydd y gymanfa gyffredinol, 1913; darlithydd Davies, 1921. Bu iddo ran flaenllaw yn ffurfiad y fyddin Gymreig ddechrau rhyfel 1914-8, a gwnaed ef yn gaplan mygedol iddi. Yn 1917 anrhydeddwyd ef â'r radd o D.D. gan Brifysgol Cymru. Y mae cofiant iddo gan R.R. Hughes (1929) a chyhoeddwyd dwy gyfrol o'i bregethau (1922, 1923).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/