Ganwyd yn 1801 ym Mhentre'r Felin, Llansantffraid Glan Conwy, yn ail fab i Cadwaladr Williams, melinydd; yr oedd Cadwaladr Williams yn gefnder i John Jones, Talsarn - eu tadau'n frodyr. Addysgwyd John Williams yn Lerpwl; gymaint oedd ei awydd am dyfu'n naturiaethwr fel y bwriodd gryn amser yn Ashridge ac yng ngerddi Kew. Prentisiwyd ef i'w frawd hŷn, William, a oedd yn feddyg ac apothecari yn Abergele; yna aeth i Ddulyn, a graddio yno'n M.D. Ymsefydlodd yn 1832 fel meddyg yng Nghorwen; eithr yn 1849, pan ddaeth y chwiw i gloddio am aur yng Nghaliffornia, aeth yntau yno. Torrodd ei iechyd, a dychwelodd i'r wlad hon yn 1853; bu'n feddyg yn Froncysylltau ac yn Wrecsam. Bu farw yn 1859. Ei hawl i'w gofio yw ei lyfr a gyhoeddodd yn Llanrwst yn 1830, cyn troi allan i'r byd fel meddyg. Llyfr ar fywyd natur yn Llanrwst ydyw, gyda'r teitl Lladin Faunula Grustensis, a'r is-deitl digrif ' An Outline of the Natural Contents of the Parish of Llanrwst.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.