WILLIAMS, JOHN ('Ioan Mai'; 1823 - 1887), bardd

Enw: John Williams
Ffugenw: Ioan Mai
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1887
Priod: Margaret Williams (née Hughes)
Rhiant: Mary Williams
Rhiant: Benjamin Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: David Jenkins

Ganwyd 13 Mai 1823 yng Nghaernarfon fab i Benjamin a Mary Williams. Addysgwyd ef yn yr Ysgol Genedlaethol yno, ac yna fe'i prentisiwyd i'r Mri. W. Potter, llyfrwerthwyr yng Nghaernarfon a Phwllheli. Tua 1847 agorodd John Williams ei siop lyfrau ei hun yn Bridge Street, Caernarfon, ac er nad oedd ond glaslanc prin ei gyfleusterau, llwyddodd ar ei union. Yr oedd yn ddarllenwr mawr iawn, a datblygodd ddiddordebau llenyddol helaeth a wnaeth iddo gyfeillion o'r athrawon Joseph Loth, o Brifysgol Rennes, ac E. B. Cowell, Caergrawnt. Dywedir iddo gynorthwyo'r olaf gyda'i gyfieithiadau Saesneg o weithiau Dafydd ap Gwilym. Ysgrifennodd 'Ioan Mai' lawer o gerddi rhydd, rai ohonynt gogyfer â chystadleuthau eisteddfodol, ond er bod ei draethawd anorffenedig, 'The characteristics of Welsh poetry,' yn profi ei fod yn medru'r cynganeddion, ni sgrifennodd ond ychydig iawn yr y mesurau caeth. Cyfieithodd rai o gywyddau Dafydd ap Gwilym, a emynau Ann Griffiths, ac o gerddi'Ceiriog,' yn Saesneg. Bu'n pregethu'n gynorthwyol gyda'r Wesleaid am 47 mlynedd. Priododd â Margaret, unig ferch Hugh Hughes, Tynewydd, Trefriw, a bu iddynt chwech o blant. Bu farw 14 Hydref 1887, a chladdwyd ym mynwent Llanbeblig. Cyhoeddwyd detholiad o'i bregethau yn y gyfrol o'i waith a olygwyd gan John Lloyd Pierce.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.