WILLIAMS, JOHN (1833 - 1872), Biwmares, hynafiaethydd a chyfreithiwr

Enw: John Williams
Dyddiad geni: 1833
Dyddiad marw: 1872
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd a chyfreithiwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Cyfraith
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd 7 Rhagfyr 1833, mab hynaf John Williams, Trosyrafon, curad parhaol Llanfaes, Llangoed, a Phenmon. Ymsefydlodd ym Miwmares fel cyfreithiwr mewn partneriaeth â'i frawd, a gweithredai, hefyd, fel 'agent' dros stad Carreglwyd. Yr oedd yn hynafiaethydd diwyd ac o gryn safon, ac ymddiddorai'n arbennig yn hanes hen deuluoedd bonheddig Môn. Ymysg ei waith cyhoeddedig y mae: David Hughes, M.A., and his Free Grammar School at Beaumaris (Bangor, 1864), ' Penmynydd and the Tudors ' (Archæologia Cambrensis, 1869); Hen Blas (The Old Palace) in Beaumaris (Holyhead, 1869), a ' The History of Berw ' (Supplement, Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club, 1915); erys rhagor o ffrwyth ei lafur mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu farw 8 Ionawr 1872.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.