WILLIAMS, THOMAS LLOYD (1830 - 1910), llenor yn U.D.A.;

Enw: Thomas Lloyd Williams
Dyddiad geni: 1830
Dyddiad marw: 1910
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor
Place: U.D.A.
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Brongaled, Dyffryn Ardudwy, sir Feirionnydd, 25 Tachwedd 1830. Yr oedd dylanwad y Parchn. Richard Humphreys ac Edward Morgan yn fawr arno. Bu'n siopwr am gyfnod cyn ymfudo i Racine, Wisconsin, U.D.A., 1850; yno agorodd fasnachdy a gweithio hefyd mewn ffatri wlân. Ysgrifennai i'r Drych a newyddiaduron eraill. Cyhoeddodd A brief history of the early Welsh settlers of Racine and of the first Welsh C.M. Church from its organisation in 1842, 1891, a Cymry Racine, Wisconsin; Nodweddion y Genedl Gymreig, 1904. Yn 1856 ysgrifennodd draethawd, ‘Cymwysterau Gwladwr Da yn y Talaethau Unedig.’ Bu farw 24 Tachwedd 1910.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/