bedyddiwyd 9 Hydref 1756, mab Edward Williams o dreflan Leprog Fawr, Llaneurgain, Sir y Fflint, ac Ann ei wraig. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Eglwys Crist 23 Mai 1776, a graddio yn 1780; cymerodd ei M.A. yn 1783. Ar ôl ei ordeinio, bu am beth amser yn gaplan Coleg Eglwys Crist, ond dychwelodd i Gymru yn 1790, pryd y sefydlwyd ef yn ficer Bangor. Bu hefyd yn athro ysgol Friars, 1789?-1803? Cymerodd raddau B.D. a D.D. yn 1802. Ar 27 Hydref 1802 penodwyd ef yn rheithor Llanbedrog gyda Llangian a Llanfihangel Bachellaeth, a hefyd yn archddiacon Meirionnydd; ar 1 Gorffennaf 1809, ymddeolodd o'r archddiaconiaeth, a dyfod yn brebendari Penmynydd. Rhoddodd y gorau i'r swydd hon yn ei thro, a derbyn, 21 Tachwedd 1818, reithoraeth Llanrhaeadr-yng-Nghinineirch yn Nyffryn Clwyd. Dilynodd ei fab, Edward, ef yno yn 1820; ond parhaodd Peter Williams yn rheithor Llanbedrog hyd ei farwolaeth 20 Chwefror 1837. Claddwyd ef yn Llanbedrog, 25 Chwefror. Bu iddo fab, Edward (uchod) ac un arall, Cyril. Pregethodd Peter Williams bregeth o flaen Prifysgol Rhydychen, ddydd Iau y Dyrchafael, 1786, a chyhoeddwyd hon yn ddiweddarach. Cyhoeddodd nifer o weithiau, yn eu plith un yn amddiffyn yr Eglwys Sefydledig (Rhydychen, 1803); pedair cyfrol, Casgliad o Bregethau (Dolgellau, 1813-4); ac argraffiad o'r Ffydd Ddiffuant gan Charles Edwards (Dolgellau, 1824).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.