Codwyd ef i bregethu yn Rhydwilym, ac er nad oes gofnod o'i fedyddio yn llyfr yr eglwys, mae'n debyg mai ef yw'r gŵr a enwir gyda Mary, ei wraig, dan blwyf Llanglydwen, yn y rhestr aelodau yn y flwyddyn 1689. Y mae sôn amdano'n bedyddio yno ym mlynyddoedd olaf y ganrif, ond tua diwedd 1700 ymunodd Olchon, Llaneigon, a'r eglwys newydd yn y Trosgoed (Maes-y-berllan) i'w sefydlu'n weinidog arnynt, ac yno y treuliodd weddill ei oes hyd ei farw mewn gwth o oedran yn 1724. Nid oedd Joshua Thomas yn cofio iddo adael teulu. Yr oedd yn aelod amlwg o gymanfa newydd y Bedyddwyr, ac ef, yn Abertawe yn 1704, oedd un o'r cyntaf i bregethu ynddi, ond ymddengys yr adwaenid ef orau yn ei ddydd am ei allu arbennig i gymodi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.