Ganwyd yn Hendreforionbach, Llanllyfni, Sir Gaernarfon, 1774. A ganlyn ydyw cofrestriad ei fedydd; '10 ber -6 the Foulk ye son of Robt Wm of Hendreforion bach weaver by Lowry his wife.' Adwaenid ef ar hyd ei oes dan yr enw Foulk Roberts, ac oherwydd ei ddawn arbennig i ganu gelwid ef yn ' Ffowc Bach y Canwr.' Yn 17 oed talodd bonheddwr am dri mis o addysg gerddorol iddo gan John Williams ('Ioan Rhagfyr'), Dolgellau. Daeth yn gerddor lled dda, ac am lawer o flynyddoedd âi o gwmpas ardaloedd Arfon a Môn i ddysgu'r cantorion ganu. Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir llyfr wedi ei ysgrifennu ganddo. Ar yr wyneb-ddalen y mae - ' Llyfr Cerddoriaeth o Gerddi Sion a gwir folianwyr yr Arglwydd. Casgliad o Anthemau, Hymn Tonau, Carolau a hen alawon, a ysgrifennwyd tua 1834 gan Foulk Roberts "Eos Llyfnwy" Llanrug, sir Gaernarfon.' Mae 1,158 o dudalennau i'r llyfr, a channoedd o donau ac anthemau o waith prif gerddorion y cyfnod. Wedi priodi symudodd Foulk Roberts i fyw i'r Clegir yng nghwr uchaf plwyf Llanrug, ac yno y bu farw 11 Rhagfyr 1870. Claddwyd ef ym mynwent Llanrug.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Bedyddiwyd ef yn Llanllyfni, 6 Rhagfyr 1782; claddwyd brawd hŷn o'r un enw ar 16 Gorffennaf 1780. Priododd ei gyfnither, Catherine Williams, yn Llanberis, 6 Awst 1800.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.