Ganwyd yn Helygen, Sir y Fflint, mab Owen Williamson, garddwr, a Dorothy ei wraig. Symudodd y teulu pan oedd y mab tua 12 oed i Lanwnda, Sir Gaernarfon. Ni chafodd ysgol fel y cyfryw eithr rhoes offeiriad y plwyf addysg iddo a daeth yn hyddysg mewn Saesneg ac i raddau helaeth mewn Ffrangeg. Bu'n cadw ysgol mewn gwahanol fannau yn Sir Gaernarfon a sir Ddinbych, ac, yn ddiweddarach, yn Niwbwrch, sir Fôn, lle y daeth yn gyfeillgar â'r offeiriad, Henry Rowlands, a oedd yn ddisgynnydd o Henry Rowlands, awdur Mona Antiqua, ac y priododd â Jane Roberts. Cystadleuodd yn eisteddfod Aberffraw, 1849, ar destun yr awdl, sef 'Y Greadigaeth,' ond ni ddaeth yn gyntaf. Ymysg ei gyhoeddiadau y mae Awdl y Greadigaeth (Caernarfon, 1849); Awdl ar yr Adgyfodiad (Caernarfon, 1851); Y Nadolig; Pryddest ar Enedigaeth Crist (Rhyl, 1854); Y Garddwr Cymreig (Caernarfon, d.d.); Pryddest ar Ddoethineb Duw (Caernarfon, d.d.); Hunan-Gyfarwyddyd i Gymro ddysgu Darllen, Ysgrifennu, a Deall yr Iaith Seisoneg (Caernarfon, tri arg. o leiaf); a Gramadeg Teirieithog, neu Ieithiadur Cymraeg-Saesonaeg-Ffrancaeg. Bu farw 20 Mai 1852 a'i gladdu ym mynwent eglwys S. Pedr, Niwbwrch.
Mab iddo oedd OWEN WILLIAMSON (1840 - 1910), yntau'n ysgolfeistr a llenor; ganwyd yn Niwbwrch 21 Tachwedd 1840. Bu yn y coleg hyfforddi yng Nghaernarfon, ac yn athro yn ysgol yr eglwys ac wedyn yn yr Ysgol Frutanaidd ym mhlwyf Llangeinwen. Bu farw yn Niwbwrch, 22 Rhagfyr 1910, a chladdwyd yno. Sgrifennodd lawer i'r cylchgronau, a gadawodd amryw lyfrau anghyhoedd. Cyhoeddodd hanes Niwbwrch (c. 1895), a rhamant hanesyddol, Ceris y Pwll, 1908.
Cymerwyd y dyddiadau oddi ar garreg ei fedd. Ond tystia rheithor Niwbwrch mai ar 26 Chwefror, 1837 y bedyddiwyd yr unig Owen Williamson sydd yn rhestr bedyddiadau'r plwyf. Efallai mai brawd, a fu farw cyn geni'r llenor, oedd hwn; claddwyd rhyw ' Owen Williams,' yn 3 oed, yn Awst 1840. Claddwyd y llenor 24 Rhagfyr 1910, a rhoddir ei oedran yn 70 - gan gytuno felly â'r garreg. Os felly y mae, nid yn Niwbwrch y bedyddiwyd ef.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.