Ganwyd naill ai ym mhlwyf Llanfyllin neu ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn, c. 1769. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn y Tŷ-uchaf, ger Pontysgadarn, Llanfihangel, yn dilyn ei grefft fel gwehydd. Ymaelododd gyda'r Annibynwyr ac yr oedd yn un o'r rhai a fu'n gyfrifol am adeiladu capel Braich-y-waun. Yr oedd hefyd yn un o'r rhai a gymhellodd 'Ieuan Gwynedd' i ddechrau pregethu. Bu farw fis Tachwedd 1848, yn 79 oed; claddwyd ef 18 Tachwedd, ym mynwent eglwys Llanfihangel. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth, carolau duwiol, plygain a Phasg gan mwyaf, a chyhoeddwyd pum llyfr o'i waith yn ystod ei fywyd: Telyn Dafydd, 1820; Ychydig o Ganiadau Buddiol, 1824; Newyddion Gabriel, 1825, ail arg. 1834; Manna'r Anialwch, 1831; Mer Awen, 1844. Mewn ardal enwog am ei phlygeiniau, yr oedd bri ar ei garolau ef. Aeth dau o'i feibion i'r weinidogaeth, Joseph, a fu'n weinidog yn Llansilin ar un adeg, a John, a drodd yn ddiweddarach at y Bedyddwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.