Fe wnaethoch chi chwilio am edward jones
Ganwyd 25 Mai 1774, mab Owen Williams, amaethwr a thafarnwr y ' Sign,' Llanbedrog, Sir Gaernarfon, a Catherine ei wraig - a'i fedyddio 3 Mehefin 1774. Bu am gyfnod ar y môr - gweler ei 'Awdl i M.W.P. (B.B.) ac E.F., pan oedd y bardd ar y môr yn llong ei fawrhydi, Amethyst, 1800'; yn ddiweddarach ymsefydlodd yn ei sir enedigol. Ceir llawer o'i waith yng nghyfrolau Brython (Tremadog) a cheir detholiad o'i awdlau, cywyddau, ac englynion wedi eu cynnull gan John Jones ('Myrddin Fardd') yn Cynfeirdd Lleyn, 1905. Bu farw ym mis Mai 1814 a chladdwyd ef ym mynwent Ceidio Sir Gaernarfon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.