Ganwyd 7 Mehefin 1837 yn Mellington Hall, Churchstoke, Sir Drefaldwyn. Prentisiwyd ef gyda pheiriannydd yn Staffordshire; wedyn bu'n cynorthwyo Benjamin Piercy ar y ' Cambrian Railway ' a ffyrdd haearn eraill. Yn 1862, ymsefydlodd yn Rhaeadr Gwy fel tirfesurydd a goruchwyliwr stadau, gan gychwyn hefyd fel pensaer - y gwaith a apeliai fwyaf ato; daliodd at ei waith preifat pan benodwyd ef wedyn yn ' County Surveyor.' Yr oedd cylch ei fusnes yn eang iawn; atgyweiriodd nifer mawr o hen blasau (a chodi rhai newydd) ac o adeiladau cyhoeddus, a nifer mwy fyth o hen eglwysi. Nid anniddorol fydd cofio mai ef a brisiodd stad Nantgwyllt pan brynwyd hi gan Birmingham i ddibenion gwaith dwr Cwm Elan. Ymunodd yn gynnar â'r Cambrian Archaeological Association, ond yn 1870 yr ymddangosodd y cyntaf (ar ' Castell Collen') o'r rhes hir o'i bapurau yn Archæologia Cambrensis; yr oedd yn F.S.A. Tyfodd yn gryn awdurdod ar hen fynachlogydd Cymru - Tal-y-llychau, Ystrad Marchell, Cwm Hir, ac yn bennaf oll Ystrad Fflur, testun ei unig lyfr, The Cistercian Abbey of Strata Florida, 1889. Bu farw 11 Rhagfyr 1899, yn ystod ei dymor fel siryf sir Faesyfed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.