Ganwyd yn 1843 yn Wick Episcopi, sir Gaerwrangon; aeth i Eton ac i Goleg Caius yng Nghaergrawnt, a graddiodd yn y gyfraith gydag anrhydedd yn y dosbarth blaenaf; galwyd i'r Bar o Lincoln's Inn, ac yr oedd yn F.S.A. Gwasnaethodd ei sir enedigol ar hyd ei fywyd, a bu'n gadeirydd ei brawdlys chwarterol a'i chyngor sir. Bu farw 7 Mehefin 1928. Ymddiddorai yn hanes yr eglwys yng Nghymru; cyfrannai i gylchgronau'r Cymmrodorion (noder ei bapur ar Peckham yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1900-1), a golygodd ' Lyfr Du Tyddewi ' dros y gymdeithas honno (1902) - nid yn foddhaol iawn. Cyhoeddodd hefyd lyfr, The Celtic Church of Wales, 1897; seiliwyd hwnnw ar theori o'i eiddo ef ei hunan, a barnwyd y llyfr gan Louis Gougaud yn ' amheus ac unochrog,' a chan J. E. Lloyd yn ' ddi-drefn iawn.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.