WILLIAMS, WILLIAM ('Y Lefiad '; fl. 1853), cyfieithydd Uncle Tom's Cabin.

Enw: William Williams
Ffugenw: Y Lefiad
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfieithydd Uncle Tom's Cabin.
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Daeth yn adnabyddus yn ei gyfnod fel cyfieithydd gwaith Harriett B. Stowe, Caban 'Newyrth Tom (Abertawy, 1853) ac oblegid ei lyfr yn erbyn y Mormoniaid, sef Dynoethiad Mormoniaeth; yn cynwys Hanes Joseph Smith, Saith Gradd y Deml, Gwreigiaeth Ysbrydol, yn nghyda'r Seremoniau a arferir ar Dderbyniad i'r Urdd hono. O enau tystion profedig (Abertawy, 1853). Yr oedd yr awdur yn byw yn Ystradgynlais yn 1853.

Gweler bellach nodyn E. Wyn James yn Canu Gwerin, 27 (2004), t.46 (n.27), lle dangosir mai Thomas Levi oedd awdur y ddwy gyfrol a gyhoeddwyd dan y ffugenw 'Y Lefiad'. Cyfrannodd y gweinidog Methodist William Williams (1817-1900) ragymadrodd i gyfieithiad Thomas Levi, Crynodeb o Gaban 'Newyrth Tom (1853).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.