Bedyddiwyd yn Llanwnog (Maldwyn) 4 Ebrill 1704, mab Thomas Worthington, o'r Parc, Llanwnog. Bu yn ysgol ramadeg Croesoswallt, ac ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, 9 Mai 1722. Cymerodd radd B.A. yn 1725/6; aeth i Gaergrawnt, a graddio'n M.A. yno o Goleg S. Ioan yn 1730. Yn 1758 cymerodd raddau B.D. a D.D. yn Rhydychen. Bu'n athro yn ysgol Croesoswallt, ac, yn Ebrill 1730, penodwyd ef yn ficer Llan-y-blodwel, Sir Amwythig; yn Nhachwedd 1731, yn ganon yn eglwys gadeiriol Llanelwy; yn rheithor Darowen, Gorffennaf 1737 hyd 1751; yr Hôb, Sir y Fflint, 1751-74; Llanfor, ger y Bala, 1774 (y tri hyn heb ofal y plwyf). Bu'n ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant o 1745 hyd ei farw, ac yn brebendari Meifod yn eglwys gadeiriol Llanelwy o 1773. O 1762 ymlaen yr oedd hefyd yn brebendari yn eglwys gadeiriol Caer Efrog. Cartrefodd yn Llanrhaeadr yn ystod ei ficeriaeth, a helaethodd y ficerdy; bu farw yno 6 Hydref 1778, a'i gladdu yn y fynwent. Mae iddo goflech yn yr eglwys. Ymddiddorai Worthington mewn llawer o gynlluniau, megis hwnnw i godi argae dros y Traeth Mawr. Ymwelodd Samuel Johnson a Thomas Pennant ag ef yn Llanrhaeadr. Yn ei ewyllys gadawodd eiddo i wahanol achosion cenhadol, a hefyd er sefydlu llyfrgell i'r eglwys gadeiriol yn Llanelwy. Ysgrifennodd nifer o weithiau diwinyddol, ac ymhlith ei gynhyrchion olaf (gan gynnwys un a gyhoeddwyd wedi iddo farw) yr oedd rhai a wnâi â phroblemau ysbrydion aflan yn y Beibl.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.