pe gellid credu'n ffyddiog mai ef oedd yr ‘Owen Meirion’ a sgrifennodd yr ysgrif ‘Hanes Tre'r Bala’ yn Y Brython, 1860, 264-5, yna gellid barnu mai brodor o'r Bala ydoedd. Canai yn y ffeiriau ar hyd ac ar led Cymru — clywir amdano e.e. ym Machynlleth, Holywell, Llanfyllin, Llanrwst, a ffeiriau Sir Gaernarfon; ac yr oedd hefyd yn adnabyddus iawn yn y Deheudir. Gwisgai ‘het silc’ bob amser. Myn rhai iddo roi'r gorau i ganu, a chymryd at gasglu a gwerthu carpiau; sut bynnag, adfydus fu ei ddyddiau diwethaf, ar waethaf caredigrwydd Nicholas Bennett wrtho; bu farw ‘ar y plwyf’ yn Llanbrynmair, 24 Mehefin 1868, yn 65 oed, a chladdwyd yno — gwnaeth ‘Mynyddog’ englyn i'w roi ar garreg ei fedd. Y mae 56 o'i faledau ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/