Ganwyd yn Dôl Lydan, plwyf Llanbrynmair, 10 Ionawr 1833. Yr oedd ei dad, Daniel Davies, yn ddiacon a blaenor y gân yn yr Hen Gapel, a'i fam, Jane, yn perthyn i deulu llengar. Bedyddiwyd ef gan y Parch. John Roberts, tad 'y tri brawd o Lanbrynmair.' Pan oedd yn 2 oed symudodd ei rieni i'r Fron yn yr un plwyf. Cafodd ei addysg yn ysgol yr Hen Gapel a gedwid gan John Roberts ('J.R.'). Cystadleuodd lawer mewn eisteddfodau yn y mesurau caeth a rhydd, a chymerth ei enw barddonol, ' Mynyddog,' o Newydd Fynyddog, bryn yn yml ei gartref. Nid oes dim arbenigrwydd yn ei waith yn y mesurau caeth, ond daeth ei ddarnau yn y mesurau rhydd yn boblogaidd iawn. Darnau syml canadwy oeddynt, yn sôn am lawenydd a helbul bywyd y bobl, am ffolineb coegfalchder, ac am wrthuni rhagrith; âi yntau i gyngherddau i ganu'r darnau hyn ar alawon poblogaidd gan gyfeilio ar harmonium bychan. Teithiai i Lundain yn aml i glywed y prif gantorion yno, ac efe a gafodd yr harmonium i'r Hen Gapel. Yr oedd galw mawr amdano i feirniadu a datganu, ac yn enwedig i arwain eisteddfodau yng Nghymru a Lloegr.
Cyhoeddwyd tair cyfrol o'i waith yn ystod ei fywyd, Caneuon Mynyddog, 1866, Yr Ail Gynnyg, 1870, Y Trydydd Cynnyg, 1877, a chyfrol arall Pedwerydd Llyfr Mynyddog yn 1882. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o ddetholiadau o'i waith yn 'Cyfres y Fil.' Ysgrifennodd lythyrau i'r Herald Cymraeg a'r Cronicl a'r Dydd, gan ddefnyddio'r ffugenwau 'Rhywun,' 'Wmffra Edward,' a 'Y Dyn a'r Baich Drain.' Yn y llythyrau hyn ymdriniai â phynciau'r dydd a beirniadu arferion ffôl.
Priododd, 25 Medi 1871, Ann Elizabeth, merch y Parch. Aaron Francis, Rhyl, ac adeiladodd gartref newydd, Bron-y-gân, yng Nghemais, Sir Drefaldwyn. Yn 1876, ar ôl arwain ' eisteddfod y gadair ddu ' yn Wrecsam, aeth i America ar wahoddiad cyfeillion i geisio edfryd ei iechyd, ond gwaethygu a wnaeth, a daeth yn ol i Fron-y-gân, a marw yno 14 Gorffennaf 1877. Claddwyd ef ym mynwent yr Hen Gapel, 19 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.