HUGHES, WILLIAM (1757 - 1846), gweinidog gyda'r Annibynwyr, emynydd, a cherddor

Enw: William Hughes
Dyddiad geni: 1757
Dyddiad marw: 1846
Priod: Jane Hughes (née Jones)
Plentyn: John Hughes
Rhiant: Jane Jones
Rhiant: Hugh Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, emynydd, a cherddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Griffith Jones

ail fab Hugh Jones a Jane Williams (gweddw), Gadlys, Llanwnda (Arfon); bedyddiwyd 25 Mehefin 1757. Priododd â Jane Jones yn Llanwnda, 20 Chwefror 1783, a bedyddiwyd eu mab John yno, 2 Rhagfyr 1784. Ymunodd a'r Annibynwyr yng Nghaernarfon yn amser y deffroad dan George Lewis; codwyd ef yn bregethwr cynorthwyol yn 1788, wedi ymadawiad George Lewis (1794), penodwyd ef yn efengylydd teithiol, a chododd drwydded bregethu, yn y frawdlys chwarterol, ar 17 Gorffennaf 1795. Bu cymaint llwyddiant ar ei lafur fel na ellir adrodd hanes eglwysi hynaf yr Annibynwyr yn Arfon, Eifionydd, a Dyffryn Conwy heb ei enwi ef yn un o'r cyfryngau pennaf yng nghychwyniad yr achosion. Adnabyddid ef ar ei deithiau fel ' Hughes, Brynbeddau ' - bu'n amaethu Brynbeddau (Llanwnda) gyda'i dad ar ôl priodi, ac ef oedd y tenant o 1794 hyd 1814. Tua 1815 symudodd i dŷ a gododd gerllaw capel Saron (1812) yn yr un plwyf, ac ar 2 a 3 Gorffennaf 1821, ac yntau'n 64 oed, urddwyd ef yn weinidog Saron. Ni lwyddodd cystal fel gweinidog ag fel efengylydd, a darfu ei gyswllt â Saron ymhell cyn ei farw - ymunodd yntau ag eglwys y Bontnewydd, un arall o'r eglwysi a blanesid ganddo. Cyfansoddodd emynau gwych, a chyhoeddwyd rhai tonau ganddo, yn Y Dysgedydd. Bu farw 9 Mawrth 1846; yn 1858 cododd eglwysi Annibynnol y sir gistfaen ar ei fedd ym mynwent y llan yn Llanwnda.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.