Bu'n byw am gryn amser yn y Chwaen Wen, Llannerch-y-medd. Sgrifennai i'r cyfnodolion, yn arbennig i Goleuad Gwynedd a Goleuad Cymru; a chyhoeddodd yn 1813 lyfryn o brydyddiaeth, Lloffion o Faes Boaz (na chymysger hwn â'r llyfryn o'r un enw gan Robert Thomas, 1796 - 1866). O hwn y tynnwyd y pennill adnabyddus ' O, dragwyddol iachawdwriaeth,' sydd yn llyfr emynau'r Methodistiaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.