DAVIES, DAVID 'DAI' (1896-1976), cricedwr a dyfarnwr criced

Enw: David Davies
Dyddiad geni: 1896
Dyddiad marw: 1976
Priod: Mary Elizabeth Davies (née Davies)
Plentyn: Margaret Edwards (née Davies)
Rhiant: Margaret Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cricedwr a dyfarnwr criced
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: D. Huw Owen

Ganwyd Dai Davies yn Llanelli ar 26 Awst, 1896, yr ieuengaf o 11 plentyn. Roedd ei fam, Margaret Davies, yn wraig weddw yn 1901. Addysgwyd ef yn Ysgol Anglicanaidd Pentip, Sandy, Llanelli. Priododd Mary Elizabeth Davies yn 1924 a ganed iddynt un ferch, Margaret.

Dai Davies oedd un o'r ddau Gymro cyntaf, ynghyd ag Emrys Davies, a fu'n amlwg fel cricedwyr proffesiynol yn nhîm Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Wedi gadael yr ysgol, gweithiodd yng ngwaith dur Llanelli, ac mae'n debyg mai ei brofiadau yno fu'n gyfrifol am ei gefnogaeth gadarn i Streic Gyffredinol 1926. Chwaraeodd griced i Lanelli a Sir Gaerfyrddin tra'n gweithio yn y gwaith dur, a chwaraeodd ei gêm gyntaf i Forgannwg yn 1923. Wedi i'r sir golli pum gêm gyntaf y tymor, mae'n debyg i Dai gael ei ddihuno gan ei fam am 11.30 a.m. ar ôl iddo weithio tyrn ddwbl am un awr ar bymtheg yn y gwaith dur lleol oherwydd absenoldeb cydweithiwr. Fe'i hysbyswyd fod car wedi cyrraedd i'w gludo i faes criced Sain Helen, Abertawe, ac wedi profi ychydig o drafferth i sicrhau mynediad i'r maes gan fod y gêm eisoes wedi cychwyn, llwyddodd i gipio wiced cyn cinio yn ei belawd gyntaf a dwy wiced arall yn y prynhawn. Cyfrannodd hefyd yn sylweddol at fuddugoliaeth y sir drwy sgorio 58 o rediadau yn y batiad cyntaf a 51 yn yr ail fatiad.

Yn aelod o dîm Morgannwg o 1923 tan 1939, a chwarae 411 o gêmau, daeth yn un o chwaraewyr amryddawn mwyaf llwyddiannus criced sirol yn y 1920au a'r 1930au. Yn fatiwr cadarn a phenderfynol, sgoriodd 15,390 o rediadau gyda chyfartaledd o 24.27 a sgôr uchaf o 216 yn erbyn Gwlad yr Haf yn 1939, a 16 o gannoedd, gan gynnwys tri chant yn olynol yn 1928. Roedd yn enwog am daro'r bêl yn galed, ac yn 1927 llwyddodd i daro chwech enfawr dros y stand rygbi yn Abertawe a syrthiodd y bêl i wagen lo a leolwyd ar y rheilffordd y tu allan i faes Sain Helen: honnwyd wedyn i weithiwr rheilffordd ddarganfod y bêl adeg dadlwytho'r wagen yn Craven Arms, Sir Amwythig a dywedir i Dai Davies dderbyn sawl gwahoddiad i ginio ar sail yr hanes am y bêl a drawyd ganddo o Abertawe i Sir Amwythig ! Yn fowliwr cyflymder canolig a throellfowliwr, cipiodd 275 o wicedi. Yr oedd yn faeswr campus, gyda 193 o ddaliadau i Forgannwg, ac fe'i disgrifiwyd gan Jack Hobbs yn un o'r maeswyr cyferbwynt gorau a welodd erioed.

Ymddeolodd Dai Davies yn 1939 a bu'n hyfforddwr yn Ysgol Bromsgrove o 1944 tan 1946, pan y'i penodwyd yn ddyfarnwr ym Mhencampwriaeth y Siroedd. Datblygodd yn un o ddyfarnwyr gorau y gystadleuaeth, yn enwog am ei ddyfarniadau cadarn a phendant. Ymddangosodd ei enw ar y rhestr dyfarnwyr dosbarth cyntaf o 1946 tan 1961, a bu'n ddyfarnwr mewn 23 o gêmau prawf rhwng 1947 a 1958. Ef oedd y dyfarnwr yn y gêm yn Bournemouth yn 1948 pan enillodd Morgannwg Bencampwriaeth y Siroedd am y tro cyntaf, a mynegwyd ganddo y dyfarniad cofiadwy pan gwympodd wiced olaf Swydd Hampshire: 'That's out and we've won the Championship.'

Dioddefodd o wynegon yn ei flynyddoedd olaf, ond cydweithredodd gyda John Edwards, ei fab yng nghyfraith, gyda chyhoeddi ei gofiant yn 1975.

Bu farw Dai Davies yn Llanelli ar 16 Gorffennaf, 1976.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-03-18

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.