Ganwyd Emrys Davies yn Sandy, Llanelli ar 27 Mehefin, 1904, yn fab i Thomas Davies, gweithiwr tin, a'i wraig Mary. Addysgwyd ef yn Ysgol Anglicanaidd Pentip, Sandy, Llanelli. Priododd Gertrude Moody yn 1927. Ganed iddynt un mab, Peter, a chwaraeodd ef rygbi i Brifysgol Caergrawnt a bu'n gapten ar ail dîm Morgannwg yn y 1950au.
Emrys Davies oedd un o'r ddau Gymro cyntaf, ynghyd â Dai Davies, a fu'n amlwg fel cricedwyr proffesiynol yn nhîm Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd.
Wedi gadael ysgol, gweithiodd yng ngwaith dur Llanelli. Chwaraeodd griced i dîm y gwaith ac yna i Glwb Criced Morgannwg yn 1924 fel troellfowliwr llaw-chwith. Er gwaethaf dechreuad cymharol ddi-nod i'w yrfa fel cricedwr gyda Morgannwg, dyfarnwyd cap sirol iddo yn 1928 a datblygodd yn aelod cyson o'r tîm yn y 1930au. Yn fatiwr llaw-chwith sgoriodd dros 1,000 o rediadau yn 1932 a chyrhaeddodd y targed hwn yn gyson tan 1953. Yn 1939 tarodd ei sgôr uchaf o 287 heb fod allan yn erbyn swydd Gaerloyw, a pharhaodd y sgôr hwn yn sgôr unigol uchaf y clwb tan y flwyddyn 2000. Ffurfiodd bartneriaeth agor llwyddiannus gydag Arnold Dyson o 1932 tan 1947, a sefydlwyd ganddynt record sirol newydd o 274 yn eu partneriaeth agor yn erbyn swydd Gaerlŷr yn 1937. Sicrhaodd ef record newydd arall yn 1948 pan ychwanegodd Willie Jones ac yntau 313 o rediadau am y drydedd wiced yn Brentwood yn erbyn Essex.
Yn 1935 Emrys Davies oedd y chwaraewr cyntaf o dîm Morgannwg i sicrhau'r dwbl drwy sgorio 1,000 o rediadau a chymryd 100 o wicedi yn yr un tymor; cyflawnodd yr un orchest yn 1937 pan sgoriodd 1,954 o rediadau a chymryd 101 o wicedi. Fe'i dewiswyd ar gyfer taith yr MCC i India yn 1939-40 ond diddymwyd y daith oherwydd dechreuad yr Ail Ryfel Byd. Parhaodd i chwarae wedi'r rhyfel tan iddo gyrraedd ei benblwydd yn 50 oed. Chwaraeodd 612 o gêmau i Forgannwg dros gyfnod o 30 blynedd er 1924, gyda chyfanswm o 26,566 o rediadau, sgorio 1,000 o rediadau ar 16 achlysur, a chymryd 903 o wicedi.
Yn dilyn ei ymddeoliad yn 1954 ymunodd â rhestr y dyfarnwyr a gweithredodd mewn naw gêm brawf rhwng 1956 a 1959. Ef oedd y dyfarnwr yng Ngêm y Lludw, ar faes Old Trafford, pan gipiodd Jim Laker 19 wiced am 90 rhediad i Loegr yn erbyn Awstralia. Ymddeolodd oherwydd afiechyd yn 1960 a bu'n hyfforddwr yng Ngholeg Llanymddyfri yn ystod y cyfnod 1961-70.
Bu farw Emrys Davies yn Llanelli ar 10 Tachwedd, 1975.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-03-18
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.