EVANS, MORRIS EDDIE (1890-1984), cyfansoddwr

Enw: Morris Eddie Evans
Dyddiad geni: 1890
Dyddiad marw: 1984
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfansoddwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganed Eddie Evans ar 5 Hydref 1890 yn Nhal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, unig blentyn William Owen Evans a'i wraig Catherine A. Evans. Cadwai'r teulu siop groser Cloth Hall ac yn ddiweddarach Paris House yn Nhal-y-sarn, a derbyniodd y mab wersi harmoniwm a sol-ffa gan gerddorion lleol. Symudodd y teulu i Lerpwl yn 1904, lle cafodd Eddie hyfforddiant gan y cerddor a'r cyfansoddwr John Henry Roberts ('Pencerdd Gwynedd'). Bu'n organydd capel Edge Lane yn Lerpwl am 36 mlynedd ac arweiniodd Gôr Cymysg Gwalia a Chôr Meibion ATM. Gweithiai ar hyd ei oes fel gwerthwr a gyrrwr gyda chwmni cig y Brodyr Hughes, Aintree. Bu'n byw mewn sawl man yng nghyffiniau Lerpwl a Manceinion ac am gyfnod byr ym Mhrestatyn.

Dechreuodd gystadlu'n ifanc ac enillodd nifer dda o wobrau eisteddfodol am emyn-donau, gan gynnwys gwobrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1937 (Machynlleth) ac 1977 (Wrecsam); ond y dôn a enillodd iddo anfarwoldeb yw 'Pantyfedwen', i'r geiriau 'Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw' gan W. Rhys Nicholas (1914-1996), a enillodd iddo wobr o £300 yn Eisteddfod Rhys Thomas James, Pantyfedwen yn Llanbedr Pont Steffan yn 1968. Trefnwyd y dôn i leisiau meibion a chyfuniadau eraill o leisiau, a daeth yn adnabyddus y tu allan i Gymru, gan ymddangos mewn rhai casgliadau Saesneg ac mewn cyfieithiad i iaith Fiji. Ceir casgliad llawysgrif o'i donau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (NLW 22360D), sydd hefyd yn cynnwys rhai cyfansoddiadau i organ a manion eraill.

Priododd yn 1921 â Louise Pierce o Fôn, a chawsant un ferch, Megan. Bu farw ei wraig gyntaf yn 1934, ac yn 1944 priododd â Gwyneth Mills Jones (1910-1981) o Lerpwl, a chawsant un ferch, Ann. Yn 92 mlwydd oed priododd ag Ethel Dunkerley. Erbyn hynny roedd yn byw yn Oldham yn sir Gaerhirfryn, ac yno y bu farw 30 Mai 1984. Amlosgwyd ei weddillion yn Amlosgfa Oldham.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-08-13

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.