Ganwyd W. Rhys Nicholas ar 23 Mehefin 1914 yn nhyddyn Pen-parc, Tegryn, Sir Benfro, y pumed o naw plentyn William Nicholas (bu farw 1933) a'i wraig Sarah. Cefnder i'w dad oedd y bardd-bregethwr T. E. Nicholas. Cafodd ei addysg yn yr ysgol leol a phan oedd yn 14 oed anfonwyd ef i Ysgol Ramadeg enwog John Phillips yng Nghastellnewydd Emlyn. Yn ystod ei gyfnod yno dioddefodd o'r diciáu, a'i gorfododd i dreulio cyfnod hir yn ysbyty Sealyham ac yn sanatoriwm Bronllys ger Talgarth.
Addolai'r teulu yng nghapel Annibynnol Llwyn-yr-hwrdd, a phan oedd yn ei ugeiniau cynnar, dan arweiniad ei weinidog, Stanley Jones, penderfynodd Rhys ei gyflwyno ei hun i'r weinidogaeth. Aeth i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin ac oddi yno yn 1938 i Goleg y Brifysgol yn Abertawe, lle y graddiodd yn y Gymraeg yn 1941 a gwasanaethu fel Llywydd y Myfyrwyr, cyn dychwelyd i Gaerfyrddin i wneud gradd mewn diwinyddiaeth. Ordeiniwyd ef yn weinidog ar 7 Tachwedd 1945 yn Llwyn-yr-hwrdd cyn ei benodi yn gynorthwy-ydd i Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr, E. Curig Davies. Yn ystod ei gyfnod yno gwasanaethodd fel ysgrifennydd i'r pwyllgor a oedd yn paratoi argraffiad newydd Y Caniedydd, emyniadur yr Annibynwyr Cymraeg, a ymddangosodd maes o law yn 1960. Ond yn 1947 ymadawodd i fod yn weinidog ar eglwys Annibynnol y Bryn, Llanelli, cyn symud yn 1952 i weinidogaethu yn Horeb a Bwlch-y-groes yng Ngheredigion. Oddi yno symudodd i'r Tabernacl, Porth-cawl hyd ei ymddeoliad yn 1982, gan barhau i fyw yn yr ardal honno. Ym Mhorth-cawl yn arbennig bu'n gefn i fudiadau Cymraeg, gan hyrwyddo sefydlu ysgolion Cymraeg a sylfaenu papur bro Yr Hogwr.
Dangosodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth yn ifanc a chyhoeddwyd cerddi o'i waith yng nghylchgrawn Coleg Abertawe, Dawn. Yn ystod ei gyfnod yn Horeb a Bwlch-y-groes sefydlodd berthynas agos â Gwasg Gomer yn Llandysul, a golygodd nifer fawr o gyfrolau ar ei rhan. Bu hefyd yn gyd-olygydd cylchgrawn Y Genhinen. Bu'n olygydd Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol am ddeng mlynedd, a thraddodi darlith lenyddol yr Eisteddfod yng Nghwm Rhymni, 1990, ar 'Crwys y Rhamantydd'.
Bu'n arolygydd Gwasg yr Annibynwyr, Gwasg John Penry, am rai blynyddoedd, a bu'n Llywydd Undeb yr Annibynwyr yn 1981-82, gan draethu ei anerchiad ar y testun 'Maen Prawf ein Cristnogaeth'.
Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, Cerdd a Charol (1969) a Cerddi Mawl (1980, ac argraffiad wedi ei helaethu yn 1991), a nifer o gyfrolau defosiynol. Cysylltir ef yn fwyaf arbennig â byd yr emyn, ac ef oedd yr amlycaf o emynwyr Cymru yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif. Cyfrifir ei emyn arobryn, 'Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw', a enillodd iddo wobr Eisteddfod Rhys Thomas James yn Llanbedr Pont Steffan yn 1967, ac a genir ar dôn M. Eddie Evans, 'Pantyfedwen', ymhlith y mwyaf poblogaidd o emynau diweddar Cymru. Ceir 23 o'i emynau yn y casgliad cydenwadol, Caneuon Ffydd, a gyhoeddwyd yn 2001. Dysgodd lawer am emynau trwy wasanaethu pwyllgor Y Caniedydd yn ei ieuenctid, a bu'n gadeirydd ar y pwyllgor hwnnw yn ddiweddarach. Ef hefyd a lywiodd y gwaith o baratoi'r casgliad newydd, Caniedydd yr Ifanc, a ymddangosodd yn 1980. Bu'n weithgar iawn gyda Chymdeithas Emynau Cymru, ac fe'i hurddwyd yn Gymrawd y Gymdeithas.
Yn 1946 priododd ag Elizabeth Dilys (Beti) Evans (1921-1985) o Rydargaeau. Ni chawsant blant. Bu farw Rhys Nicholas ar 2 Hydref 1996, a chynhaliwyd ei angladd ar 7 Hydref. Claddwyd ei lwch gyda llwch ei briod ym mynwent gyhoeddus Porth-cawl.
Dyddiad cyhoeddi: 2018-12-18
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.