Ganwyd David Evans ar 27 Gorffennaf 1933 yn Lambeth, Llundain, ond ychydig wedi hynny symudodd ei deulu i Ben-y-groes, Sir Gaerfyrddin. Bu'n ddisgybl yn ysgol elfennol y pentref ac yna yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Yn ŵr priod, yr oedd ganddo ddau blentyn.
Chwaraeodd David Evans i glwb criced Rhydaman a gwnaeth argraff ar aelodau pwyllgor Morgannwg mewn gêm dysteb yn erbyn y sir. Chwaraeodd dros y sir fel wicedwr am y tro cyntaf yn 1956, ac enillodd ei gap sirol yn 1959 pan ymddeolodd Haydn Davies, a fu'n wicedwr am flynyddoedd lawer. Enillodd glod am ei agwedd effeithiol ac anymwthgar, ac ystyriwyd ef yn un o wicedwyr gorau Pencampwriaeth y Siroedd. Yn 1963 sicrhaodd 89 o wicedi, sef record sirol. Yn 1967 dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Churchill a'i galluogodd i ymweld ag Awstralia, Seland Newydd, Fiji, Sri Lanka a Singapore ble bu'n darlithio ac astudio dulliau hyfforddi. Ymddeolodd wedi tymor 1969, pan gyflwynwyd tysteb iddo, ac yn ystod ei yrfa gyda'r sir sgoriodd 2,875 o rediadau ar gyfartaledd o 10.53, ac fel wicedwr roedd cyfanswm ei ddaliadau yn 502 a stympiadau yn 56.
Bu'n gyfrifol wedyn am ddyletswyddau hyfforddi yn Yr Hague a Tasmania, ac yn 1971 ymunodd â rhestr y dyfarnwyr dosbarth-cyntaf. Gweithredodd mewn naw Gêm Brawf rhwng 1981 a 1985, a'i Gêm Brawf gyntaf oedd gêm enwog y Lludw rhwng Lloegr ac Awstralia yn Headingley yn 1981, pan enillodd Ian Botham y gêm bron ar ei ben ei hun. Bu'n rhaid iddo ymddiswyddo o banel y Gêmau Prawf oherwydd afiechyd, ond adlewyrchwyd y parch a dalwyd iddo gan y byd criced gan ei benodiad yn gadeirydd y grŵp proffesiynol o ddyfarnwyr dosbarth-cyntaf.
Yr oedd yn siaradwr poblogaidd mewn ciniawau, ac fel siaradwr Cymraeg rhugl cyfrannodd yn aml i raglenni chwaraeon Cymraeg y BBC.
Bu farw David Evans yn Nre-fach, Llandysul ar 25 Mawrth, 1990.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-03-19
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.