FRANCIS, DAVID ('DAI') (1911-1981), undebwr llafur ac arweinydd y glowyr

Enw: David Francis
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 1981
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: undebwr llafur ac arweinydd y glowyr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd Dai Francis ar 5 Chwefror 1911 yn Glynhelig House, New Road, Pantyffordd, Blaendulais ger Castell Nedd yng Nghwm Dulais, yr ail o'r chwe phlentyn a anwyd i Thomas Francis, torrwr glo, a'i wraig Winifred (ganwyd Morgans). Bu Thomas Francis yn pleidleisio'n rheolaidd i'r Blaid Lafur o 1918 ymlaen, ac ef oedd yr unig un o fewn y pentref i brynu'r Daily Herald bob bore. Y Gymraeg oedd iaith yr aelwyd, ac roedd y teulu'n Annibynwyr i'r carn, gan fynychu'r capel yn rheolaidd deirgwaith y Sul. Roedd Thomas Francis yn flaenor yng Nghapel yr Annibynwyr, Onllwyn ac yn bregethwr lleyg. Derbyniodd Dai Francis ei addysg yn ysgol elfennol Onllwyn o 1915 hyd 1926, ond methodd yr arholiad 'eleven plus'.

Yn ystod bachgendod Dai Francis bu plwyfoldeb ac ynysigrwydd maes glo carreg y gorllewin yn edwino'n weladwy gyda'r glowyr lleol, hwythau'n frwd i amddiffyn eu harferion a'u hymarferion gwaith traddodiadol, bellach yn amlygu gorwelion a phersbectifau llawer iawn ehangach. Fel canlyniad bu Dai Francis ym merw'r caledi a'r amddifadiad cymdeithasol eithriadol a ddaeth yn sgil streic y glo carreg 1925, Streic Gyffredinol naw diwrnod Mai 1926, a'r streic hir a ddilynodd yn y diwydiant glo. Crëwyd argraff fawr ar Francis gan bresenoldeb Arthur Horner, gŵr a draddododd nifer o areithiau cyhoeddus grymus yng nghymoedd y Rhondda. Horner oedd y Comiwnydd cyntaf i ddal swydd Llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru ym 1936, a daeth yn ymwelydd cyson i gartref Francis yn nes ymlaen. Daeth Dai Francis yn ei dro i gofleidio gwerthoedd Horner ynghylch cydlyniad dosbarth rhyngwladol, undod Ffederasiwn Glowyr De Cymru, teyrngarwch personol, a dynoliaeth gynnes.

Daeth Francis yn löwr ei hun yn Rhagfyr 1926 pan ymunodd â'i dad ym mhwll glo rhif 1 yr Onllwyn, gan barhau i weithio yno hyd 1959 (ond yn y 1930au hwyr cafodd ei orfodi gan afiechyd i weithio ar yr wyneb). Cynrychiolai bumed genhedlaeth teulu Francis i weithio yn y diwydiant glo. Ar 19 Rhagfyr 1936 priododd Catherine, merch William Powell, atalbwyswr mewn pwll glo lleol, a gwnaethant eu cartref yn Onllwyn. Bu'r briodas yn eithriadol o hapus ac yn gefn aruthrol iddo drwy gydol troeon hallt bywyd cyhoeddus. Bu iddynt ferch Nancy (ganwyd 1939), a mab Hywel (ganwyd 1946) a ddaeth yn hanesydd disglair, ac a etholwyd yn AS Llafur dros Aberafan yn 2001.

Mynychodd Dai Francis ddosbarthiadau nos dan adain Cyngor Cenedlaethol y Coleg Llafur yn ystod canol y tridegau, lle cafodd ei ddysgu gan y marcsydd Dai Dan Evans. Yn sgil cychwyn y Rhyfel Cartref yn Sbaen, ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, yn argyhoeddedig mai'r Comiwnyddion yn unig a fedrai atal twf Ffasgaeth yn Ewrop, a daliodd yn driw i'r blaid honno am weddill ei fywyd. Cychwynnodd ei yrfa o fewn Ffederasiwn Glowyr De Cymru pan etholwyd ef yn ysgrifennydd ariannol cyfrinfa'r glowyr ym mhwll glo rhif 1 Onllwyn, a daeth yn gadeirydd y gyfrinfa yn 1940. Bu hefyd yn gadeirydd ar y gymdeithas les a'r cynllun cymorth meddygol yn Onllwyn am flynyddoedd. Pan ffurfiwyd Undeb Cenedlaethol y Glowyr ym 1959 penodwyd Francis yn brif swyddog gweinyddol cangen de Cymru, a symudodd y teulu i'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.

Ym 1963 olynodd ei hen fentor Dai Dan Evans fel ysgrifennydd cyffredinol ardal de Cymru o Undeb y Glowyr ar adeg eithriadol o anodd yn hanes diwydiant glo de Cymru yn sgil cau nifer o byllau, a thrasedïau fel tanfa pwll y Cambrian ym 1965 a thrychineb erchyll Aberfan yn Hydref 1966. Dro ar ôl tro apeliodd Francis ar lywodraeth Harold Wilson i leihau'r rhaglen o gau pyllau glo ac roedd yn frwd ei gefnogaeth i streiciau cenedlaethol lled lwyddiannus y glowyr ym 1972 a 1974 a oedd yn ei dyb ef yn gwneud yn iawn am ddigwyddiadau 1926. Ac yntau'n hallt ei feirniadaeth ar strwythurau rhanbarthol Cyngres yr Undebau Llafur yng Nghymru, cefnogodd sefydlu TUC Cymru ym 1974, gan mai cynrychiolwyr etholedig oedd ynddi, a'r gallu ganddi i wneud penderfyniadau ar faterion Cymreig. Daeth yn llywydd cyntaf y corff newydd.

Ar ôl hanner canrif llawn o wasanaeth nodedig, ymddeolodd Dai Francis ym 1976. Ond parhaodd yn weithgar mewn nifer o gylchoedd, gan gynnwys ei swyddogaeth o fewn Cymdeithas Cyfeillgarwch Cymru a'r Undeb Sofietaidd, yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (CND), a mudiadau heddwch eraill. Roedd yn gefnogwr brwdfrydig i'r ymgyrch 'Ie' yn ystod refferendwm datganoli mis Mawrth 1979, a bu hefyd yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru ac o Fwrdd Opera Genedlaethol Cymru. Ym 1976 cafodd gryn gefnogaeth pan safodd fel enwebai'r myfyrwyr yn erbyn Siarl, Tywysog Cymru, am swydd Canghellor Prifysgol Cymru.

Yn dilyn strôc, bu farw Dai Francis yn Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd, ar 30 Mawrth 1981 wedi salwch byr. Parhaodd yn weithgar hyd at ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth yn 70 mlwydd oed. Yn fuan ar ôl ei farw cynhaliwyd cyfarfod coffa iddo yng Nghanolfan Lles Glowyr Onllwyn. Cyflwynwyd ei bapurau i ofal Archif Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.

Drwy gydol ei fywyd bu Dai Francis yn emblem llachar o'r gymuned lofaol a ffurfiodd ei gymeriad. Roedd ei ystyfnigrwydd cynhenid a gwytnwch mewnol cadarn yn cuddio synnwyr dwfn o ddynoliaeth a hiwmor cynnes. Darllenai'n awchus ac yn eang, ac amlygid ei gariad at yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth yn ei gefnogaeth i eisteddfod y glowyr a sefydlwyd ym 1947 a gŵyl y glowyr a ddaeth i fodolaeth chwe blynedd yn ddiweddarach, y ddau yn ddigwyddiadau amlwg ym mywyd diwylliannol de Cymru. Yn Eisteddfod Genedlaethol 1974 cafodd ei dderbyn i Orsedd y Beirdd, gan gymryd yr enw barddol 'Dai o'r Onllwyn'. Pan fu farw, disgrifiodd ei hen gyfaill Michael Foot ef fel 'twymgalon, angerddol, ymroddgar i'w achos ac i'w bobl, ac yn Gymro hyd flaenau ei fysedd'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-01-14

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.