JENKINS, DAVID CYRIL (1885-1978), cerddor

Enw: David Cyril Jenkins
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1978
Priod: Pauline Ouri H. Jenkins (née Ouri?)
Rhiant: Mary Jenkins
Rhiant: John Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Trevor Herbert

Ganwyd Cyril Jenkins yn Nyfnant, Abertawe, ar 9 Hydref 1885, yn fab i John Jenkins, glöwr, a'i wraig Mary; symudodd y teulu i Gilfynydd pan oedd Cyril yn blentyn. Ei athro cerdd cyntaf oedd David Lloyd o Donypandy, ond fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Pontypridd a chafodd wersi mewn theori cerddoriaeth gan Harry Evans a gwersi ar yr organ gan W. G. Alcock. Fe'i penodwyd yn organydd Capel Moriah, Cilfynydd, pan oedd yn dal yn ei arddegau, ond erbyn 1911 roedd yn byw mewn llety yn 50 Cardiff Street, Treorci, ac yn gweithio fel organydd yng Nghapel Bethany, Treherbert, ac fel athro cerddoriaeth.

Ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf symudodd i Lundain lle cafodd waith fel gwarantwr yswiriant a roddai gynhaliaeth wrth iddo gael gwersi cyfansoddi gyda Stanford a Prout. Mae rhai ffynonellau'n honni iddo fod yn ddisgybl i Ravel, ond nid oes sôn am hyn yn ysgrifeniadau Jenkins ei hun, a phetai'n wir mae'n siŵr y buasai wedi gwneud yn fawr o'r peth. Gwasanaethodd yn y rhyfel gyda'r Royal Field Artillery ac fe'i dyrchafwyd yn gapten gweithredol. Yn y blynyddoedd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf beirniadodd mewn amryw eisteddfodau, a pherfformiwyd ei weithiau corawl yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn 1921/2 olynodd y cyfansoddwr cerddoriaeth ysgafn Hubert Bath (1883-1945) fel cyfarwyddwr cerddoriaeth i Gyngor Sir Llundain, ac fel rhan o'r swydd honno trefnodd gyngherddau band yn rhai o barciau'r ddinas. Cymerodd y swydd hon hefyd fel modd i ariannu ei waith fel cyfansoddwr, a chafodd gryn lwyddiant. Byddai ei gyfansoddiadau'n cael eu cyhoeddi gan amlaf, yn enwedig y rhan-ganeuon, a chaent dderbyniad da gan feirniaid a chyd-gyfansoddwyr.

Symudodd Jenkins i Awstralia ddiwedd 1929. Cyhoeddwyd yn y Sydney Morning Herald (31 Ionawr 1931) ei fod wedi cyrraedd yn ddiweddar a'i fod ar fin cael ei benodi'n arweinydd y Gymanfa Ganu. Efallai iddo symud er mwyn ei iechyd, yn y gobaith o wella mewn hinsawdd mwynach. Fodd bynnag, ni fu'n hir cyn ymsefydlu: cafodd ddigon o waith fel arweinydd, athro a beirniad, a thra fu'n uchel iawn ei barch yng nghylchoedd y Cymry alltud, daeth ei enw a'i farn yn adnabyddus i gynulleidfa ehangach o lawer yn sgil ei waith fel beirniad cerdd ar gyfer y Melbourne Herald a'r cylchgrawn wythnosol Table Talk.

Yn y blynyddoedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd teithiodd Jenkins yn aml rhwng Awstralia, Gogledd America a Phrydain. Câi ei wahodd yn gyson i feirniadu yn yr Unol Daleithiau a Chanada, a bu'n arweinydd gwadd yn aml gyda chôr enwog y Tabernacl yn Salt Lake City, Utah. Ni chollai'r cyfle fyth ar y teithiau hyn i hyrwyddo ei gyfansoddiadau ei hun, ac am y rheswm hwn hefyd y bu iddo ddychwelyd i Lundain nifer o weithiau cyn symud yn ôl yno yn barhaol yn 1968.

Nid oedd Jenkins yn gyfansoddwr mawr, ond roedd yn effeithiol ac yn gynhyrchiol dros ben. Ystyriai ef mai ei weithiau corawl ar raddfa fawr, ei gathlau symffonig a'i ran-ganeuon oedd ei gampau mwyaf, a honnodd braidd yn ysgubol unwaith fod ei Out of Silence (1949) yn un o'r gweithiau mwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd erioed, gyda gwerthiant o chwarter miliwn o gopïau. Mewn gwirionedd, nid yw'r un o'i gyfansoddiadau wedi dal prawf amser. Ei weithiau pwysicaf, mae'n debyg, oedd y rhai ar gyfer band pres. Lluniodd bedwar darn prawf pencampwriaeth (prif genre y bandiau pres), a bu statws canonaidd i ddau ohonynt, Coriolanus (1920) a Life Divine (1921), am y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif. Maent hefyd yn cynnig rhywfath o fodel ar gyfer y ffurf trwy ddangos y ffordd i eraill symud tuag at ysgrifennu gwreiddiol idiomatig ac oddi wrth yr arfer gyffredin ar y pryd o addasu gweithiau a fodolai'n barod.

Er bod Jenkins yn gynnyrch cymdeithas ddosbarth-gweithiol ddiwydiannol de Cymru gyda'i rhwydweithiau cerddoriaeth eisteddfodol, datblygodd adwaith yn ei herbyn a daeth yn dipyn o ddieithryn. Roedd ganddo farn bendant bob amser a byddai'n ei rhannu'n ddigymell: er enghraifft, un o'r pethau cyntaf a wnaeth ar ôl cyrraedd Awstralia oedd cyhoeddi asesiad diflewyn-ar-dafod o gyflwr canu corawl yn y wlad a'r modd y bwriadai ei wella. Ond y peth a ddistrywiodd ei enw da gyda'r sefydliad cerddorol yng Nghymru oedd ei farn am gerddoriaeth Cymru a draddodwyd mewn darlith ym Manceinion ar 30 Medi 1921 ac a adroddwyd wedyn yn argraffiadau Lloegr a Chymru o'r Manchester Guardian (1 Hydref 1921). Roedd ei deimladau ar y pwnc yn amlwg mor gynnar â 1913 mewn erthygl yn y cylchgrawn Wales (3 Mawrth 1913: 163-4), ond roedd darlith 1921 yn fwy penodol a llym, gan ladd ar gerddoriaeth Cymru am fod yn ynysig, yn gyntefig ac yn anwybodus o ffasiynau modern (cyfeiriodd at Sibelius fel cyfansoddwr nad oedd prin neb wedi clywed amdano yng Nghymru). Dadleuodd ymhellach fod y cyflwr ynysig hwn wedi ei achosi a'i gynnal gan barch gormodol at ychydig o gyfansoddwyr, yn enwedig Joseph Parry, un a fu dan y lach gan Jenkins ar hyd ei fywyd, ac y cyfeiriodd ato, yn ôl yr adroddiad, fel 'ready imitator of commonplace and even vulgar phrases'. Cryfhaodd Jenkins ei ddadl trwy ganu a chwarae amryw ddarnau o'r repertoire Cymreig er mwyn arddangos ei wendidau'n blaen.

Heblaw'r gwawdio o'r ddwy ochr, yn sgil hyn cafodd gwaith Jenkins ei wrthod i'w berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ond mewn gwirionedd, er mor annerbyniol gan rai oedd ei farn am Joseph Parry a'r traddodiad yr oedd yn rhan ganolog ohono, yn y bôn roedd y farn honno'n rhesymol ac i raddau helaeth yn gywir. Ar y llaw arall, mae'n anodd gwadu nad oedd Jenkins yn credu iddo gael cam hefyd, a dyma un rheswm pam y mae ei lythyrau a'i ysgrifau cyhoeddedig yn dangos dyn diamynedd a blin a deimlai o hyd fod eraill wedi ei adael i lawr. Ond yn ddigon rhyfedd, roedd yn awyddus bob amser i gael ei gydnabod yng Nghymru.

Mae fisa mewnfudo dros dro i'r Unol Daleithiau a roddwyd yn Efrog Newydd yn Ebrill 1947 yn dangos i Jenkins fod yn briod â gwraig o Awstralia. Mae'n debyg mai Pauline oedd hon - roedd Ouri hefyd yn rhan o'i henw, efallai'n gyfenw - (1902-1989), a briododd Jenkins tua 1939 ac a fu'n fam i'w ddau blentyn. Yn sgil pyliau o afiechyd, gan gynnwys problemau gyda'i lygaid, gorfodwyd Jenkins i ymddeol erbyn 1970. Gadawodd Lundain ac ymgartrefu yn 56 Wick Hall, Hove, Sussex, lle y bu farw ar 15 Mawrth 1978.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-07-13

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.