Ganwyd George Livsey yn Alnwick, Northumberland yn 1834, yn fab i Ralph Livsey (1804-1863), cerddor syrcas teithiol, a'i wraig Margaret (1808-1887).
Roedd Ralph Livsey yn chwaraewr biwgl allweddog disglair, ac mae'n debyg ei fod wedi dysgu'r sgil hwn mewn band milisia gan fod yr offeryn cymharol newydd hwn wedi ei ddatblygu er mwyn gwella cerddoriaeth filwrol. Daeth yn unawdydd gyda Wombwell's Travelling Circus and Menagerie, a oedd yn enwog am ei fand yn ogystal ag am ei arddangosfa o greaduriaid egsotig. Dengys cyfrifiad 1841 fod y teulu cyfan yn byw mewn llety yn Birmingham gyda cherddorion teithiol eraill. Roedd Merthyr Tudful yn gyrchfan gyson ar gylchdaith syrcas Wombwell.
Yn 1848 denwyd Ralph Livsey i adael Wombwell's er mwyn arwain band pres preifat a ffurfiwyd gan y meistr haearn Robert Thompson Crawshay yng Nghastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful. Rhoddwyd lle hefyd yn y band i George, a oedd yn dair ar ddeg oed ar y pryd, fel chwaraewr biwgl allweddog (ac yn ddiweddarach y cornet). Roedd Band Cyfarthfa yn wahanol iawn i lawer o fewn mudiad y bandiau pres amatur a amlhaodd ym Mhrydain Fictorianaidd o'r 1850au. Yn ogystal â bod o flaen y ffasiwn gyffredin, roedd yn ymhel yn fwy soffistigedig â chanon cerddoriaeth gelfyddydol Ewrop, ac roedd ganddo offerynnau drudfawr o Fienna wedi eu mewnforio'n unswydd trwy gyflenwr Crawshay yn Llundain, yn hytrach na'r fersiynau rhatach o lawer a gynhyrchid ym Mhrydain ar gyfer y farchnad leol. Band preifat a dethol ydoedd, wedi ei ffurfio a'i gynnal dan nawdd Crawshay fel rhan o'i ymgais i wneud ei gartref rhodresgar yn werddon ddiwylliannol yng nghanol tirwedd ddiwydiannol de Cymru.
Un o'r ychydig gystadlaethau bandiau pres i'r band gystadlu ynddynt oedd gornest fawr genedlaethol y Crystal Palace yn 1860, cystadleuaeth a enillodd trwy chwarae gosodiad clyfar o'r agorawd i opera Verdi Nabucco. Daeth y band yn enwog yn sgil hyn a chafodd Crawshay yr enw (braidd yn anhaeddiannol) o fod yn ddyn nodedig am ei ddiwylliant a'i haelioni.
Bu Ralph Livsey farw yn 1863. Erbyn hynny roedd yn enwog yn y cylch, ac mae hyn i'w weld yn arddull gywrain ei fedd yn Hen Eglwys Plwyf Santes Tudful. Penodwyd ei fab George yn olynydd iddo fel arweinydd y band yn syth, ar arhosodd wrth y llyw am yn agos i drigain mlynedd. Ef a arweiniodd y band, ef a hyfforddodd ei gerddorion, ac ef a ddewisodd ac a osododd ei repertoire, gan ddilyn esiampl ei dad o ddenu rhai o offerynwyr pres gorau'r cyfnod, megis y chwaraewr ophicleide Sam Hughes, y pencampwr mwyaf ar yr offeryn hwnnw a fu ym Mhrydain erioed.
Câi Livsey gymorth wrth baratoi'r sgorau gan yr hynod George D'Artney, cerddor o Ffrainc a addysgwyd yn yr Almaen ac a feddai ar wybodaeth arbenigol o'r repertoire Ewropeaidd. Roedd D'Artney yng ngwasanaeth Crawshay ac yn byw mewn llety di-nod ar ei ystad, ond roedd yn ddyn anodd ac yn feddw trwy'r amser mae'n debyg. Heb fedr rhyfeddol George Livsey ni allasai Band Cyfarthfa fod wedi ennill y lle pwysig y mae'n ei haeddu yn hanes cerddoriaeth. Mae'r repertoire a greodd ef ar gael o hyd, a chan ei bod wedi ysgrifennu â llaw ac yn unswydd ar gyfer y band, dengys nid yn unig beth a chwaraeid ond sut yn union. Roedd yn eclectig, a chynhwysai drawsysgrifiadau o simffonïau cyfan gan gyfansoddwyr mwyaf Ewrop. Er mwyn perfformio'r repertoire hon roedd gofyn cerddorion neilltuol o fedrus ac arweiniad cyfarwyddwr cerddorol soffistigedig.
Fel aelodau eraill y band, rhoddwyd gwaith i Livsey yn y gweithfeydd haearn yn hytrach na thâl fel cerddor. Yn ôl cyfrifiad 1871 trigai 'o fewn gweithfeydd haearn Cyfarthfa' ac fe'i disgrifid fel 'fitter', ond mewn cyfrifiadau diweddarach fe'i disgrifir fel 'bandmaster'. Bu farw ei wraig Elizabeth (ganwyd1834) yn 1873. Bu iddynt bump o blant, James (ganwyd1858), George (ganwyd1860), Mary (ganwyd1864), Sarah (ganwyd 1865) a Ralph (ganwyd1866). Daeth yr olaf yn ganwr corn gyda'r Coldstream Guards ac yn ddiweddarach yn y Royal Italian Opera, Covent Garden.
Ni pharhaodd band Cyfarthfa fel ensemble gwirioneddol fawr y tu hwnt i gyfnod Crawshay yn rheolwr y gweithfeydd haearn, ac yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif cymerodd yr awdurdod lleol reolaeth drosto; ond yn ei anterth hwn oedd y band gorau o'i fath yn y byd, mae'n debyg. Mae'r band yn nodedig yn y cyfnod modern am fod y ffynonellau perthynol iddo mor gyflawn a dadlennol. Hwn oedd y grŵp offerynnol gwirioneddol feistrolgar cyntaf yng Nghymru i fynd i'r afael â phrif ganon cerddoriaeth gelfyddydol y gorllewin. Er mai Ralph Livsey oedd yn gyfrifol i raddau am ei arddull a'i ddiwyg, George oedd piau'r weledigaeth gerddorol, y chwaeth reddfol a'r safonau digyfaddawd a greodd fawredd y band.
Ym mlynyddoedd olaf ei fywyd bu'n byw yn 3 Dynevor St, Merthyr Tudful, dan ofal ei ferch Mary, a gollodd ei gŵr yn gymharol ifanc. Roedd yn ddyn poblogaidd; fel y dywed y deyrnged iddo yn y Merthyr Express (Awst 11, 1923), 'One always felt refreshed by the charm and geniality of Mr Livsey's disposition'. Comisiynwyd portread mawr ohono gan George Frederick Harris, y talwyd amdano trwy danysgrifiad cyhoeddus yn 1905, ac mae i'w weld ger yr arddangosfa o offerynnau'r band yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa.
Mae'r un deyrnged yn y Merthyr Express yn nodi i'r band ddod i chwarae yn y stryd o dan ei ffenestr yn aml yn ystod ei salwch olaf. Bu farw yn ei gartref ar 2 Awst 1923. Roedd yr ysgrifau teyrnged iddo yn y papurau lleol yn hael eu clod ac yn farddonol yn aml, ac roedd ei gynhebrwng gyda'r mwyaf a welwyd yn y dref erioed. Claddwyd ei gorff yn mynwent Cefn ar gyrion Merthyr Tudful.
Dyddiad cyhoeddi: 2016-03-09
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.