LLEWELLYN, THOMAS REDVERS (1901-1976), canwr ac athro canu

Enw: Thomas Redvers Llewellyn
Dyddiad geni: 1901
Dyddiad marw: 1976
Priod: Louise Llewellyn (née Webb)
Rhiant: Catherine Llewellyn
Rhiant: John Llewellyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: canwr ac athro canu
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Trevor Herbert

Ganwyd Redvers Llewellyn yn 8 Hunter St, Llansawel, Morgannwg, ar 4 Rhagfyr 1901, yn fab i John Llewellyn (1875-1960), gweithiwr tun, a'i wraig Catherine (1878-1943). Roedd ganddo frawd hŷn, William (1899-1919) a chwaer iau, Annie (1908-1990). Defnyddiai'r enw Redvers Llewellyn yn broffesiynol, ond Tom y'i gelwid gan ei deulu a'i ffrindiau.

Roedd ei dad a'i fam yn gerddorol, ac anogent ef i ganu pan oedd yn blentyn ifanc iawn; dywedir iddo berfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf fel bachgen soprano yng nghapel y Bedyddwyr Rehobeth, Llansawel yn dair oed. Cafodd wersi canu gyda Tom Thomas yng Nghymru, gyda Francis Toye yn Llundain a chydag Oscar Daniel yn yr Eidal. Roedd ganddo lais bariton uchel disglair, ac yn 1929 ymunodd â chwmni opera Carl Rosa cyn symud i Sadlers Wells yn 1934. Yno y cychwynnodd ei yrfa o ddifrif. Ymddangosodd fel Rigoletto am y tro cyntaf yn 1939, perfformiad a enillodd ganmoliaeth gan y cyhoedd a'r beirniaid ac a sicrhaodd ei statws ymhlith unawdwyr opera mwyaf Prydain yn ei genhedlaeth.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd fel Awyr-lefftenant yn yr RAF yn Lloegr a hefyd yn Ne Affrica. Parhaodd ei yrfa yn yr opera ar ôl y rhyfel, ond aeth ati hefyd i ehangu ei repertoire. Ar gais Syr Thomas Beecham ymddangosodd yng Ngŵyl Delius yn 1946-47 fel y prif unawdydd yn Sea Drift ac yn The Mass of Life, a thrwy hyn fe'i cyflwynwyd i gynulleidfa o fath gwahanol. Roedd ei berfformiadau'n chwaethus, a dangosodd ddealltwriaeth fanwl o gyfansoddi Delius. Mae recordiadau o'r repertoire hon yn arddangos ei soffistigeiddrwydd, ac ystyriai llawer iddo wneud cyfraniad pwysig i ddiffinio'r arddull leisiol ar gyfer yr hyn a welid ar y pryd yn gerddoriaeth Seisnig gymharol fodern.

Ymddeolodd o ganu yn 1956 a dychwelodd i Gymru i dreulio tair blynedd ar ddeg yn dysgu canu yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ymhlith y llu o berfformwyr uchelgeisiol a heidiodd ato oedd y Delme Bryn Jones ifanc a'r soprano Rita Hunter. Ar ôl ymddeol o Aberystwyth symudodd i Eastbourne i fyw mewn fflat yn 17 Southfields Road. Pan ddaeth yn hysbys ei fod mor agos i Lundain cafwyd perswâd arno i dderbyn lle fel athro prifysgol mewn canu yn y Coleg Cerdd Brenhinol, apwyntiad a wnaed, yn ddiamau, ar orchymyn personol Syr Keith Falkner, Cyfarwyddwr y Coleg, a oedd ei hun yn ganwr nodedig o'r un genhedlaeth. Fe'i gwnaed yn Gymrawd o'r Coleg Cerdd Brenhinol (FRCM), anrhydedd uchaf y Coleg, yn 1973.

Nid enillodd Redvers Llewellyn yr un math o enwogrwydd parhaol â rhai o gantorion mawr Cymru, ond serch hynny mae'n haeddu cael ei gyfrif yn eu plith. Beirniadwyd llawer o gantorion Cymru am adael i emosiwn rhemp lethu eu deallusrwydd cerddorol - gwendid a grynhoir yn aml fel 'gormod o'r galon, dim digon o'r pen'. Nid oedd hyn yn wir yn achos Llewellyn; roedd ei berfformiadau'n bŵerus ond yn firain, fel y gwelir yn fwyaf amlwg efallai yn ei ddehongliad o waith Delius. Dichon fod ei gynildeb arddull, sy'n fwy nodweddiadol o draddodiad canu Lloegr, wedi cyfrannu'n sylweddol i'w effeithiolrwydd fel athro canu.

Priododd Louise Webb yn 1935; ni fu plant o'r briodas. Roedd yn ddyn poblogaidd iawn, ac roedd ei haelioni a'i hynawsedd yn ddiarhebol, yn enwedig gan y rhai a ddysgwyd ganddo ac a gydweithiodd ag ef. Roedd yn fabolgampwr brwd ac yn hoff iawn o griced a golff ar hyd ei oes.

Bu Redvers Llewellyn farw yn Ysbyty y Dywysoges Alice, Eastbourne ar 24 Mai 1975 ar ôl salwch byr. Fe'i hamlosgwyd yn Eastbourne a chladdwyd ei lwch ym meddrod y teulu yn Llansawel. Cynhaliwyd gwasanaethau coffa yng Nghymru ac yn Eglwys St Sepulchre's, Llundain (Eglwys y Cerddorion) lle traddodwyd yr araith angladdol gan Falkner.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-03-02

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.