Ganwyd ef yn Heol yr Orsaf, Brynaman, ar 29 Mawrth 1934, yn fab i John Jones, crydd, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Austin). Ei enw cofrestredig oedd Delme Jones; ychwanegwyd 'Bryn-' (yn deillio o sillaf gyntaf ei dref enedigol) o flaen ei gyfenw yn nes ymlaen yn ei fywyd. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Brynaman ac yng NgholegTechnegol Rhydaman. Ar ôl gadael y coleg gweithiodd fel trydanwr glofaol. Roedd ei fryd ar ganu, ond roedd hefyd yn chwaraewr rygbi talentog a chwaraeodd dros Gymru dan 21 oed.
Cafodd anogaeth mewn cerddoriaeth oddi wrth ei dad-cu ar ochr ei dad, a oedd yn ganwr o fri ac yn oböydd, a daeth llais bariton cyfoethog Delme yn adnabyddus cyn diwedd ei arddegau. Ar ôl cael gwersi cerddoriaeth yn lleol a gwneud tipyn o enw iddo'i hun mewn eisteddfodau, cymerodd wersi yn Aberystwyth gyda'r hyfforddwr llais enwog Redvers Llewelyn. Bu hyn yn baratoad ar gyfer Ysgol Gerdd y Guildhall yn Llundain, lle'r aeth ym Medi 1959, gan astudio am flwyddyn yn unig cyn defnyddio ysgoloriaeth arobryn i barhau ei astudiaethau yn Academi Gerddoriaeth Fienna.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel canwr opera proffesiynol gyda'r New Opera Company yn The Sofa gan Elizabeth Maconchy. Canodd yn Covent Garden am y tro cyntaf yn 1963, ac yn yr un flwyddyn ymddangosodd yn Glyndebourne fel Nick yn The Rake's Progress gan Stravinsky. Daeth ei ymddangosiad cyntaf yn America yn 1967 fel Lescaut yn Manon ac fel Donner yn Das Rheingold gydag Opera San Francisco; efallai i'r cyfleoedd hyn ddod i'w ran yn sgil dylanwad Geraint Evans, a berfformiodd yno am ddau dymor ar bymtheg yn olynol. Erbyn 1970 roedd wedi hen ennill ei blwyf fel unawdydd opera rhyngwladol gyda pherfformiadau mewn sawl canolfan Ewropeaidd gan gynnwys Opera Wladol Fienna.
Roedd Delme Bryn-Jones yn arbennig o bwysig fel unawdydd mewn cynyrchiadau gan Opera Genedlaethol Cymru - yn enwedig fel Macbeth a Rigoletto - yn hanner cyntaf y 1970au, adeg arwyddocaol iawn yn natblygiad y cwmni, a oedd newydd ei sefydlu'n llawn amser. Roedd agwedd beirniaid Llundain tuag ato yn amwys yn aml. Nid ei lais a gollfarnwyd ganddynt, gan fod hwnnw bob amser yn llawn a chyfoethog, yn enwedig yn y nodau isel, ond ei gymeriadu, a ystyrid yn anargyhoeddiadol gan rai. Ond gwahanol oedd barn ei gynulleidfaoedd, ac roedd yn ffefryn mawr ganddynt.
Cafodd ei berfformiadau glod mawr yn llawer o dai opera a chyngerdd y byd, ac er ei fod fwyaf cyfforddus mewn opera ramantaidd Eidalaidd, canodd rai o'r rhannau mwy heriol yn repertoire yr ugeinfed ganrif gyda rhwyddineb meistraidd. Gweithiodd yn llwyddiannus mewn amryw genres teledu, gyda rhannau fel Bosun yn y cynhyrchiad teledu o Billy Budd Benjamin Britten yn 1966, Blind Captain Cat yn Dan y Wenallt Dylan Thomas, ac yn addasiad teledu enwog Elaine Morgan o Off to Philadelphia in the Morning gan Jack Jones yn 1978. Roedd ei raglen wythnosol Delme ar S4C hefyd yn boblogaidd.
Roedd gyrfa Delme Bryn-Jones yn gorgyffwrdd ag un Geraint Evans, a bu dan ei gysgod ef i ryw raddau. Nid oedd hyn yn destun pryder mawr i Delme, ond credai ei fod wedi dioddef yn sgil ei gefndir di-nod a'i amharodrwydd i greu'r math o ddelwedd gaboledig a weddai i un o sêr mawr byd opera; yn sicr, mae gwirionedd yn ei honiad ei fod yn llai medrus nag eraill wrth reoli ei yrfa. Ar ei orau roedd yn swynol ac yn hael, ond arweinodd pyliau o yfed trwm at alcoholiaeth, aflwydd y llwyddodd Delme i'w drechu yn y pen draw. Yn ei flynyddoedd olaf rhoddodd lawer o'i amser i helpu eraill a wynebai'r un her. Yn 1972 fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd dan yr enw Delme Bryn.
Yn 1963 priododd Carolyn (ganwyd Savory), a chawsant ddau o blant, Emma a Tom. Bu Carolyn farw yn 1996. Ar ôl gorfod byw yn Llundain am gyfnod, symudodd y teulu yn ôl i Gymru yn 1977 gan ymgartrefu yn Y Bwthyn, Llanarth, Ceredigion. Bu Delme Bryn-Jones farw yno ar 25 Mai 2001 o emboledd ysgyfeiniol. Amlosgwyd ei gorff a gwasgarwyd ei lwch ar y Mynydd Du.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-05-18
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.