PARKHOUSE, WILLIAM GILBERT ANTHONY (1925-2000), cricedwr

Enw: William Gilbert Anthony Parkhouse
Dyddiad geni: 1925
Dyddiad marw: 2000
Priod: Dorothy G. Parkhouse (née James)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cricedwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: D. Huw Owen

Ganwyd Gilbert Parkhouse yn Abertawe, 12 Hydref, 1925. Addysgwyd ef yng Ngholeg Wycliffe, swydd Gaerloyw. Priododd Dorothy James ym 1949, a ganwyd iddynt un mab ac un ferch.

Chwaraeodd Parkhouse am y tro cyntaf i Forgannwg yn 1943 mewn gêmau cyfeillgar a drefnwyd adeg y rhyfel, ac yna, wedi cwblhau ei Wasanaeth Cenedlaethol, ymunodd â staff y clwb yn 1948 pan gyflwynwyd iddo ei gap sirol. Ar y cychwyn batiodd yn safle rhif 3 a sgoriodd 1,204 rhediad yn ei dymor cyntaf gyda chyfartaledd o 25.07 rhediad ym mhob batiad. Sgoriodd ei gant cyntaf, 117 yn erbyn Sussex yn Abertawe ac wythnos wedyn sgoriodd 103 yn erbyn swydd Efrog yn Hull. Y tymor canlynol sgoriodd 1,491 rhediad ar gyfartaledd o 33.13, gan gynnwys 126 yn erbyn swydd Hampshire a 145 yn erbyn swydd Nottingham.

Agorodd y batiad gydag Emrys Davies yn 1950 a sgoriodd 121 a 148 yn erbyn Gwlad yr Haf yn ei ddau fatiad cyntaf fel agorwr. Rhannodd bartneriaeth wiced gyntaf o 241 yn erbyn Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd a 233 yn erbyn Surrey yn Abertawe. Chwaraeodd mewn dwy Gêm Prawf yn erbyn India'r Gorllewin yn ystod y tymor hwnnw, a sgoriodd 48 yn ail fatiad yr ail Gêm Brawf, a 69 yn ail fatiad y drydedd Gêm Prawf. Yna sgoriodd 161 i Forgannwg yn erbyn swydd Gaerloyw yn Llanelli, a 162 yn erbyn swydd Gaerwrangon yn Kidderminster. Sgoriodd gyfanswm o 1,997 o rediadau ar gyfartaledd o 45.38 yn ystod y tymor hwn, a chwaraeodd dair Gêm Prawf ar daith aeaf yr MCC i Awstralia a Seland Newydd yn ystod 1950-51.

Yn 1954 rhannodd bartneriaeth o 219 gyda Bernard Hedges yn erbyn swydd Warwick yn Llanelli, ac yn 1956 tarodd ei sgôr uchaf o 201 yn erbyn swydd Gaint yn Abertawe. Sgoriodd gyfanswm o 2,071 rhediad ar gyfartaledd o 49.30 yn 1959, a chwaraeodd ddwy Gêm Brawf yn erbyn India, ond er iddo sgorio 78 yn Headingley, ei seithfed Gêm Prawf i Loegr, a rhannu partneriaeth o 146, fe'i gadawyd allan o'r tîm yn annisgwyl. Parhaodd i sgorio yn gyson i Forgannwg ond wedi dioddef anafiadau i'w gefn yn 1962 a 1963, ymddeolodd yn 1964. Chwaraeodd 435 gêm i Forgannwg a sgoriodd gyfanswm o 23,508 rhediad dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o 31.68 rhediad. Sgoriodd dros 1,000 rhediad mewn 15 tymor olynol o 1948 tan 1962, a sgoriodd gant yn erbyn pob un o'r siroedd eraill. Yr oedd yn faeswr slip medrus a chipiodd 324 daliad.

Chwaraeodd rygbi i Abertawe, a hoci i Abertawe a Chymru, ac roedd hefyd yn olffiwr brwd. Yn dilyn ei ymddeoliad fel cricedwr, hyfforddodd swydd Gaerwrangon am gyfnod byr, a gwasanaethodd am 20 mlynedd fel hyfforddwr criced yng Ngholeg Stewarts Melville yng Nghaeredin, o 1966 tan 1987.

Bu Gilbert Parkhouse farw ar 10 Awst, 2000.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-03-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.