Ganwyd Nansi Richards ar 14 Mai 1888 yn Fferm Penybont, Pen-y-bont-fawr yn sir Drefaldwyn. Ei henw bedydd oedd Jane Ann. Roedd yn un o saith o blant Ann Richards (ganwyd Evans), Fferm Penybont, a Thomas Richards yr Hafod. Roedd Thomas yn denor gwerth chweil ac yn athro canu lleol. Roedd Ann yn canu'r piano a hi ddysgodd hen nodiant i Nansi am y tro cyntaf. Mynychu ysgol Penbont ym Mhen-y-bont-fawr wnaeth Nansi gyntaf ac yna ysgol Cwmdu, Penygarnedd, Cwm Soar. Yn ôl Nansi y dylanwadau mwyaf arni oedd ei thad, y sipsiwn (a dreuliai gyfnodau maith ar dir Fferm Penybont) a'i hathro telyn cyntaf, Tom Lloyd, 'Telynor Ceiriog'.
Daeth Nansi'n fuddugol yn y Brifwyl ar yr unawd telyn deires deirgwaith yn olynol rhwng 1908 a 1910. Yna aeth i'r Guildhall yn Llundain i dderbyn gwersi telyn ffurfiol gan yr athrawes Madam Arnold. Tra'r oedd yn Llundain, gwnaeth yn fawr o'i chyfle, ac arferai ganu'r delyn i Lloyd George a'i deulu yn 10 Stryd Downing. Yn 1911, bu'n diddanu'r teulu brenhinol ar adeg arwisgiad Edward VIII ym Mhlas Machynlleth, ac o ganlyniad câi ystyried ei hunan yn 'Delynores Frenhinol', a defnyddio arfbais frenhinol ar ei rhaglenni. Cyn iddi ddychwelyd adref yn 1911, aeth o amgylch y 'music halls' gyda chwmni Moss and Stoll. Yn ystod y rhyfel byd cyntaf, bu'n chwarae bob nos Sadwrn yn rhad ac am ddim i'r milwyr yng Ngobowen.
Yn 1923 mentrodd i'r America fel telynores broffesiynol. Derbyniodd delyn aur gan gwmni Lyon & Healy (Chicago) a chafodd y cyfle i ganu'r delyn o flaen yr Arlywydd Calvin Coolidge, y telynorion enwog Sevasta a Grandjany, Henry Ford, aelodau Prifysgol Yale, ynghyd â chymuned o Americaniaid Brodorol. Un o uchafbwyntiau ei hymweliad oedd y profiad o ganu'r delyn yn ffatri fwyd Kellog, a honnodd Nansi mai hi a awgrymodd lun y ceiliog ar y paced cornfflecs oherwydd y tebygrwydd rhwng y gair Cymraeg ac enw'r cwmni.
Priododd yn 1928 â Cecil Maurice Jones, banciwr a drodd wedyn yn ffermwr. Aeth Cecil a Nansi i fyw i Madog Cafe, Tremadog. Tra'r oeddent yno sefydlwyd Côr Aelwyd ac yn 1930 Côr Telyn Eryri a gaiff ei gydnabod fel un o sefydliadau amlycaf Cymru'r cyfnod. Ceir tystiolaeth i Gôr Telyn Eryri gynnal cynifer â 2,085 o gyngherddau hyd at 1975, cyfartaledd o fwy na 46 y flwyddyn - gorchest aruthrol o gofio mai grŵp amatur oeddent. Ym mis Ionawr, 1943, gwahoddwyd hi ac Edith Evans (Telynores Eryri) i ddiddanu'r milwyr gyda'r 'Entertainment National Service Association', neu E.N.S.A.
Perfformiodd Nansi yn y Royal Festival Hall yn Llundain yn 1952, ac ym mis Gorffennaf 1953 gwahoddwyd hi i ganu'r delyn o flaen y Frenhines Elisabeth II i ddathlu ei hymweliad â Sir y Fflint. Fis yn ddiweddarach, roedd yn cynrychioli Cymru yn y Gyngres Geltaidd a gynhaliwyd yn Glasgow. Yn 1958, (pan symudodd o Gaerhun, Conwy, yn ôl i'w hardal enedigol, Pen-y-bont-fawr), fe'i gwahoddwyd ynghyd â Thelynores Eryri i ganu'r delyn o flaen Dug Caeredin (Tywysog Philip) yng Ngwesty'r Elephant, Y Drenewydd ar 21 Mai.
Ym mis Ebrill 1963 daeth yr ymchwilydd Joan Rimmer a chynrychiolydd y BBC Madeau Stewart i Fferm Penybont i recordio Nansi'n canu'r delyn deires er mwyn cael cofnod ohoni yn archifau'r BBC. Bu Cecil yn yr ysbyty am gyfnod a dyna pryd y manteisiodd Nansi ar y cyfle i ymarfer a dysgu rhai darnau ar gyfer eu darlledu. O fewn tri mis roedd Cecil wedi marw a Nansi hithau wedi ymlâdd ac o dan deimlad garw.
Cyhoeddwyd llyfr y bu cryn ddisgwyl amdano gan Wasg Gomer yn 1972, sef Cwpwrdd Nansi. Yn y flwyddyn hon yn ogystal y recordiwyd ail ochr y record o berfformiadau Nansi, 'Celfyddyd Telynores Maldwyn' gan gwmni Decca. Rhyddhawyd y record yn 1973 ac ar wahan i dri darn, perfformiwyd pob un ar y delyn deires. Teithiodd Nansi i Efrog Newydd drachefn i berfformio ym Medi 1973.
Anrhydeddwyd Nansi Richards â'r Wisg Wen yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955. Derbyniodd Gymrodoriaeth Cadair Powys yn 1959, a chynhaliwyd cyfarfod Teyrnged Genedlaethol iddi ym Mhafiliwn Corwen yn 1976. Derbyniodd yr MBE yn 1967, a dyfarnodd Prifysgol Cymru radd D. Mus. iddi yn 1977.
A hithau bellach yn byw yn y Parc, y Bala, dioddefodd stroc ddiwedd mis Hydref 1979, ac aed â hi i Ysbyty Wrecsam lle bu am rai wythnosau yn atgyfnerthu. Symudwyd hi wedyn i Ysbyty Dolgellau ond gwaethygu a wnaeth yn raddol nes iddi farw ar 21 Rhagfyr 1979 yn 91 mlwydd oed. Fe'i claddwyd ym mynwent Pennant Melangell.
Wrth geisio cloriannu ei chyfraniad, dyma yn syml roddodd Nansi i Gymru - hybu ei gwlad mor naturiol bob cyfle a gâi - yn wir, ni fedrai diplomydd wneud cystal gwaith. Teithiodd Nansi i'r mannau hyn yn rhannol fel 'virtuoso' ond yn fwy tebyg i gennad ar ran y gwir ddiwylliant Cymreig. Bu'n gweithio am dros dri chwarter canrif, fel telynores deires a phedal yn bennaf, ond rhaid cofio fod sawl gwedd arall iddi - bardd, hanesydd lleol, noddwr, casglwr, cerddor, cyfansoddwraig ac athrawes.
Nid anaddas yw cyfeirio at Nansi fel 'Brenhines y Delyn' gan mor amryddawn ydoedd ac am iddi ei chanu o flaen bonedd a gwreng fel ei gilydd heb ildio i'r demtasiwn o fawrygu'r hunan. Un o ddywediadau amlycaf Nansi ydoedd: 'i fod yn fawr, mae'n rhaid bod yn fach'. Yn wir bu'n weithgar iawn, nid yn unig ar lwyfan ond y tu cefn i'r llwyfan yn ogystal, yn chwilio ac yn prynu telynau i unrhyw un a ofynnai am un, yn dysgu plant a phobl ifainc sut i ganu'r delyn deires a'r bedal ac yn hybu ei daliadau fod rhaid cynnal traddodiad a'i gadw'n fyw. Yn ogystal, wedi iddi farw, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Nansi Richards, sy'n cynnig cefnogaeth ariannol i delynor neu delynores o dan 25 mlwydd oed sy'n byw neu a aned yng Nghymru. Enghraifft bellach yw hyn o'r parhad yn ei dylanwad ar fyd y delyn yng Nghymru. Oni bai am ymwneud 'Telynores Maldwyn' â'r sipsiwn, yn bennaf, byddai'r delyn deires wedi marw o'r tir yn ogystal â degau o hen alawon Cymreig. Cryn gamp yw cynnal diddordeb cynulleidfa dros gyfnod mor faith, ond fe lwyddodd Nansi. Ni wnaeth neb gyfraniad mor werthfawr â hi i'r delyn yn yr ugeinfed ganrif, ac yn arbennig felly i gerddoriaeth draddodiadol Gymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 2016-04-06
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.