Ganed Gareth Walters yn Abertawe, 27 Rhagfyr 1928, yn fab i Irwyn R. Walters (1902-1992) a'i wraig Margaret Jane (ganwyd Edwards). Dechreuodd gyfansoddi yn ystod ei ddyddiau ysgol, ac fe'i cefnogwyd gan Benjamin Britten, a oedd yn gyfaill i'r teulu. Aeth i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn 1949 ac yn 1952 i Baris, gydag ysgoloriaeth i'r Conservatoire Nationale, lle'r astudiodd gyda Jean Rivier ac Olivier Messiaen. Wedi cyfnod yn astudio yn Siena yn yr Eidal dychwelodd i swydd ddysgu yn Adran Iau yr Academi Gerdd, gan ddysgu disgyblion iau yn bennaf, a phrofi'n ddylanwad adeiladol ac uchel ei barch. Yn 1956 derbyniodd swydd cynhyrchydd gyda'r BBC, a bu yno tan ei ymddeoliad, tra'n parhau i ddysgu yn yr Academi a chyfansoddi llawer ar gyfer darlledu. Bu hefyd yn arholwr i Fwrdd y Colegau Cerdd Brenhinol ac yn gyfarwyddwr cerddorol Gŵyl Gerdd Gŵyr.
Yn ei gyfansoddi rhagorai yn y ffurfiau llai ac ni fentrodd ar weithiau estynedig, er iddo lunio simffoni fer, Sinfonia breve, yn 1964. Ei waith mwyaf adnabyddus yw ei Divertimento for string orchestra, a luniwyd yn 1960 ac a recordiwyd sawl gwaith. Ymhlith ei weithiau eraill a recordiwyd mae A Gwent suite (1959), Elegy (1969) i gerddorfa linynnol, ac agorawd, Primavera (1962), Little suite for harp a Capriccio for guitar (1980).
Priododd yn 1969 â Glenys Jones. Bu farw yn Kingston, Surrey ar 31 Mai 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-06-06
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.