Ganed Irwyn Walters ar 6 Rhagfyr 1902 yn Rhydaman, yr ail o chwech o blant William Walters a'i wraig Elizabeth (ganwyd Morgan). Cadwai ei dad siop baco a phapurau yn Clifton House ar sgwâr y dref, ac roedd hefyd yn solffawr pybyr ac yn arweinydd y gân yng nghapel y Bedyddwyr, Ebeneser. Cafodd Irwyn ei wersi cerddoriaeth cyntaf gan Gwilym R. Jones (1874-1953), arweinydd côr cymysg Rhydaman, a bu'n astudio'n ddiweddarach gyda David Vaughan Thomas. Ef oedd y disgybl cyntaf yn Ysgol Sir Dyffryn Aman i astudio cerddoriaeth yn bwnc i'r Dystysgrif Uwch, ond pan aeth i Aberystwyth cymerodd radd mewn Ffrangeg i ddechrau, cyn cwblhau gradd mewn cerddoriaeth. Yn yr ysgol roedd wedi ffurfio triawd gyda'i frawd Merfyn ar y sielo a Rae Jenkins (1903-1985), a ddaeth maes o law yn arweinydd adnabyddus, yn canu'r ffidil. Fel myfyriwr i Henry Walford Davies cafodd Irwyn Walters gyfle i weld arweinyddion enwog a ddaeth i'r gwyliau cerdd, gan gynnwys Adrian Boult, Gustav Holst, Ralph Vaughan Williams a Henry Wood.
Cafodd ei swydd gyntaf fel athro yn Bideford cyn symud yn 1928 i Islington a chael ei benodi'n organydd capel Cymraeg Willesden Green. Symudodd wedyn i Ysgol y Brenin Edward VI yn Stafford, ac yno ffurfiodd gerddorfa linynnol o'r enw Stafford Strings. Yn 1936 fe'i penodwyd yn Arolygwr Ysgolion mewn cerddoriaeth i Gymru gyfan, a symud i Abertawe, lle y bu fyw am weddill ei oes. Bu'n arwain Cerddorfa'r Ŵyl yno ac wedi 1939 y Gerddorfa Ffilharmonig Gymreig. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n trefnu cyngherddau i artistiaid o Lundain ym mhob rhan o Gymru.
Yn 1943 dechreuodd drefnu i ddisgyblion o Gymru fynychu cyrsiau cerddorfaol yn Lloegr, ond am fod cymaint o alw penderfynodd y dylid creu darpariaeth benodol i Gymru, ac yn 1946, trwy gefnogaeth Awdurdod Addysg sir Fynwy ac athrawon cerdd yn gyffredinol, sefydlwyd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, gyda Clarence Raybould yn arweinydd ac Irwyn Walters yn gyfarwyddwr. Gweinyddwyd y Gerddorfa wedi hynny gan Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru, a pharhaodd cysylltiad Walters â hi tan 1957. Ymddeolodd o'r Weinyddiaeth Addysg yn 1963, a bu'n weithgar iawn wedi hynny fel arholwr ar ran Coleg Cerdd y Drindod ym mhob rhan o'r byd.
Priododd â Margaret Jane Edwards (marw 1992) a chawsant un mab, y cyfansoddwr Gareth Walters. Bu farw Irwyn Walters yn Abertawe ar 21 Tachwedd 1992.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-06-09
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.