JONES, GWILYM RICHARD ('Gwilym Aman '; 1874 - 1953), cerddor, arweinydd corau a chymanfaoedd, emynydd

Enw: Gwilym Richard Jones
Ffugenw: Gwilym Aman
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1953
Priod: Blodwen Jones (née Jones)
Rhiant: Elizabeth Jones (née Mathew)
Rhiant: Richard Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor, arweinydd corau a chymanfaoedd, emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Siop y Bont, Brynaman, Sir Gaerfyrddin, 12 Ebrill 1874, yn fab i Richard Jones ac Elizabeth (ganwyd Mathew) ei wraig. Brodor o Dŷ-croes oedd y tad, baritôn llwyddiannus a ymsefydlodd ym Mrynaman wedi priodi, ac yng nghanol diwylliant bywiog yr ardal honno yn nyddiau bri Watcyn Wyn a Gwydderig y tyfodd y bachgen. Cafodd wersi cerddoriaeth gan Joseph Parry pan oedd hwnnw yn gôr-feistr ac organydd capel (A) Ebeneser, Abertawe. Yr oedd ym Mrynaman gôr enwog dan arweiniad John Jones (Pen-crug), gyda David Vaughan Thomas yn cyfeilio iddo, a thraddodiad cerddorol gwych yn symbyliad i gerddor ieuanc fel Gwilym R. a oedd wedi ei eni i fod yn arweinydd. Cafodd ei swydd gyntaf fel côr-feistr eglwys (A) Weast, Manceinion lle y bu am 15 mlynedd yn arwain côr cymysg Cymreig a chôr meibion yn y ddinas. Yn 1910 gwahoddwyd ef i gymryd swydd organydd a chôr-feistr eglwys Gellimanwydd, neu Christian Temple, Rhydaman lle y bu'n arbennig o lwyddiannus am yn agos i 40 mlynedd. Edrychid arno fel yr arweinydd corawl disgleiriaf a godwyd yn nyffryn Aman. Am dros 30 mlynedd bu'n arwain côr Cymdeithas Gorawl Rhydaman a'r Cylch, côr a enillodd y brif wobr gerddorol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghorwen, 1919, a'r Barri, 1920. Un o ganlyniadau'r llwyddiant oedd gwahodd Eisteddfod Genedlaethol 1922 i Rydaman. Cyflawnodd y côr orchest arbennig o dan ei faton yn un o gyngherddau'r eisteddfod honno drwy roi perfformiad cofiadwy i gyfeiliant Cerddorfa Simffoni Llundain o Offeren yn C leiaf Bach, y tro cyntaf yng Nghymru. Gorchest arall oedd ennill y prif wobrwyon mewn tair eisteddfod yr un dydd yn 1924 - Burry Port, Caerfyrddin, a Chlunderwen. Yn yr olaf dyfarnwyd coron arian iddo fel arweinydd côr, - coron sydd yn awr yn A.G.C., Caerdydd. Cyfrifid bod y côr yn anorchfygadwy ar ' Ye nations offer to the Lord ' o Emyn o Fawl Mendelssohn. Enillodd y darn hwn dros £1,500 mewn gwobrau i'r côr, a hynny cyn bod gwobrau ariannol mawr. Yr oedd yn arweinydd cymanfaoedd eneiniedig ac yr oedd ei gyfeiliant yng Ngellimanwydd yn creu awyrgylch perffaith i'r addoliad ac yn aml yn codi'r gynulleidfa i brofiadau aruchel wrth ganu rhai emynau ar donau arbennig. Hyfforddodd lu o unawdwyr ac offerynwyr yn ardal Rhydaman heblaw bod yn athro cerdd yn yr ysgol sir. Bu nifer ohonynt yn fuddugol mewn eisteddfodau. O dan ei hyfforddiant ef y cododd Trefor Anthony, Tom Williams, Dafen, ac eraill. Yr oedd yn foneddwr i flaenau ei fysedd a gadawodd ei ôl yn drwm ar ddyffryn Aman, gyda'r perfformiadau blynyddol o waith y meistri cerdd. Yr oedd yn aelod o Orsedd y Beirdd, ac yn englynwr medrus. Priododd, 16 Ebrill 1925, Blodwen, merch Evan a Jane (ganwyd Edwards) Jones yn y Christian Temple. Bu farw 3 Chwefror 1953 a chladdwyd ef ym mynwent Gellimanwydd y dydd Sadwrn canlynol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.