Ganed Grace Williams yn y Barri, Morgannwg ar 19 Chwefror 1906, yr hynaf o dri phlentyn William Matthews Williams (athro ysgol o Wrecsam) a'i briod Rose Emily (ganwyd Richards), athrawes o Lanelli, a briodwyd yn 1900. Ganed ei brawd Glyn yn 1908, a'i chwaer Marian yn 1919. Roedd W. M. Williams yn gerddor medrus ac yn arweinydd Côr Bechgyn Romilly, a ddaeth i gryn amlygrwydd.
Addysgwyd Grace yn Ysgol Ramadeg y Merched yn y Barri a daeth dan ddylanwad ei hathrawes gerdd Rhyda Jones, a oedd newydd raddio o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth lle bu'n astudio gyda Walford Davies. Aeth y disgybl yn ei blaen i Goleg Prifysgol Caerdydd lle'r astudiodd gerddoriaeth o dan David Evans, a graddio'n B.Mus. yn 1926. Cofiai mai peiriannol oedd y cwrs yng Nghaerdydd, gydag ymarferion diddiwedd na roddai lawer o gyfle i'w hanian gyfansoddi. Ond cafodd gefnogaeth i fynd oddi yno i'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain i astudio cyfansoddi gyda Ralph Vaughan Williams a Gordon Jacob, ac oddi yno yn 1930 aeth i Fienna i astudio gydag Egon Wellesz.
Bu'n dysgu yn Ysgol Camden i Ferched yn Llundain ac yng Ngholeg Addysg Southlands, ac yn ystod y cyfnod hwn daeth yn gyfaill agos i'r cyfansoddwr Benjamin Britten, a roddodd gefnogaeth a chymorth iddi ddatblygu ei dawn gyfansoddi, er iddi wrthod gwahoddiad i fod yn gynorthwyydd iddo. Wedi iddi ddychwelyd i dde Cymru yn 1947 bu'n ennill bywoliaeth trwy ddysgu a chyfansoddi a llunio rhaglenni radio. Cyfansoddodd gerddoriaeth i sawl ffilm: y gyntaf ohonynt oedd Blue Scar (1949) a gyfarwyddwyd gan Jill Craigie. Lluniodd hefyd gerddoriaeth i gyd-fynd â pherfformiadau radio o ddramâu Saunders Lewis.
Derbyniodd nifer o gomisiynau gan y BBC, yr Eisteddfod Genedlaethol, a gwyliau cerdd, a chyfrifir rhai o'i gweithiau, megis y consierto i'r trwmped, gyda'r goreuon yn eu cyfnod. Telynegol oedd ei harddull, a ffafriai gerddoriaeth symffonig a lleisiol yn hytrach na cherddoriaeth siambr. Cydnabu ddylanwad barddoniaeth gaeth, er enghraifft yn ei Penillion i gerddorfa a luniodd yn 1955 i Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru. Un o'i gweithiau mwyaf adnabyddus yw'r Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1938). Lluniodd hefyd Missa Cambrensis, Sea Sketches, dwy simffoni a chonsierto i'r ffidil. Dengys ei hopera un act The Parlour (1966), a seiliwyd ar ei haddasiad hi ei hun o stori gan Guy de Maupassant, ddawn arbennig o ran llwyfannu.
Gwraig dawel a diymhongar oedd Grace Williams, a berchid yn uchel iawn gan ei chyd-gyfansoddwyr ar gyfrif ei deallusrwydd a sicrwydd ei barn. Ymdrechodd yn lew i fyw fel cyfansoddwraig broffesiynol mewn cyfnod pan nad oedd merched o gyfansoddwyr yn cael parch dyladwy. Roedd yn hunanfeirniadol iawn, a distrywiodd lawer o'i llawysgrifau cynnar a phopeth nad oedd yn ei gyfrif yn deilwng i oroesi.
Bu farw yn y Barri ar 10 Chwefror 1977. Diogelwyd ei llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a rhoddwyd nifer o berfformiadau o'i gweithiau yn ystod canmlwyddiant ei geni yn 2006.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-06-10
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.