CHARLES, GEOFFREY (1909-2002), ffotograffydd

Enw: Geoffrey Charles
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 2002
Priod: Doris Thomas
Priod: Verlie Blanche Charles (née George)
Plentyn: Susan Charles
Plentyn: Janet Charles
Plentyn: John Charles
Rhiant: Jane Elizabeth Charles (née Read)
Rhiant: John Charles
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ffotograffydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Troughton

Ganwyd Geoff Charles ar 28 Ionawr 1909 ym Mrymbo ger Wrecsam. Bu ei dad John Charles (1870-1941) yn Ysgrifennydd i Gwmni Dŵr Brymbo o 1912 i 1941, ac roedd ei fam Jane Elizabeth (ganwyd Read, 1874-1968) yn un o Nyrsiau'r Frenhines. Fe'i magwyd gyda'i frawd iau Hugh a'i chwaer Margaret yn yr Hen Ficerdy, tŷ yn ymyl y rheilffordd, a bu ganddo ddiddordeb ysol mewn rheilffyrdd ar hyd ei oes. Yn Ysgol Grove Park cafodd ei annog i ymgeisio am Ddiploma mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Llundain, lle graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1928. Gweithiodd i gychwyn fel newyddiadurwr i'r Western Mail yn delio â chwestau a rasys trac lludw a milgwn. Yn nes ymlaen bu'n gweithio i'r Mountain Ash and Aberdare Express yn sgrifennu am gyfarfodydd cyngor ac achosion llys. Cafodd ei ddenu wedyn gan oleuadau'r ddinas a symudodd i Guildford i weithio i'r Surrey Advertiser.

Yn Guildford canfuwyd bod y ddarfodedigaeth arno, clefyd a allai fod yn angheuol o hyd. Ar ôl iddo wella mewn sanatoriwm dychwelodd adref a chael gwaith ar y Wrexham Star, papur a sefydlwyd yn 1934 gan gwmni Woodall, Minchin & Thomas i fod yn gystadleuaeth i'r Wrexham Leader. Busnes ceiniog a dimai oedd y Wrexham Star a ddibynnai ar werthwyr cornel stryd. Yn fuan wedi iddo ymuno â'r Wrexham Star adroddodd ar Drychineb Glofa Gresffordd. Llwyddodd i gael mynediad i stafell y lampiau a chafodd wybod bod y ffigwr swyddogol o gant o ddynion dan ddaear yn danosodiad. Yn fuan wedyn prynodd Geoff ei gamera cyntaf, VPK Thornton Pickard a ddefnyddiai blatiau 2.5 wrth 3.5 modfedd. Ymhlith y lluniau cyntaf a dynnodd roedd cyfres yn dangos aildanio ffwrneisi chwyth gwaith dur Brymbo.

Yn eironig ddigon daeth diwedd ar y Wrexham Star yn sgil ffyniant economaidd wrth i'r gwerthwyr gael swyddi cyson. Ymunodd y papur â'r Wrexham Advertiser ym Mawrth 1936. Erbyn hyn roedd Geoff yn ffotograffydd digon atebol i gael ei benodi gan Gyfarwyddwr Woodall, Rowland Thomas, yn rheolwr ar eu hadran ffotograffyddol yng Nghroesoswallt. Yn fuan wedyn symudodd i'r Drenewydd i redeg y Montgomeryshire Express a chyfrannu ffotograffau i bapur wythnosol Y Cymro. Y stori gyntaf a wnaeth i'r Cymro oedd am Lewis Valentine ychydig cyn iddo gael ei ddedfrydu am ei ran yn llosgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth. Gwrthododd Lewis Valentine gael tynnu ei lun felly tynnodd Geoff luniau o'i ferch. Cyhoeddwyd y lluniau hynny ar 23 Ionawr 1937. Yn nes ymlaen dechreuodd gydweitho â gohebydd ifanc addawol o'r enw John Roberts Williams wrth ddarlunio straeon ar gyfer Y Cymro. Cyflwynwyd y ddau gan gyfaill cyffredin ym maes pêl-droed Pwllheli yn 1938. Ystyriai Geoff mai John Roberts Williams a wnaeth iddo adnabod a gwerthfawrogi ei Gymreictod. John Roberts Williams oedd ei was priodas yn 1939 pan briododd Verlie Blanche George (1907-1981). Cawsant un mab, John, a dwy ferch, Janet a Susan.

Daeth ei waith i'r Cymro i ben bron yn llwyr yn ystod blynyddoedd y rhyfel pan fu'n rhaid iddo ganolbwyntio ei ymdrechion ar y Montgomeryshire Express. Gwasanaethodd hefyd ar is-bwyllgor Arddangos o Bwyllgor Gweithredol Amaethyddiaeth Rhyfel Sir Drefaldwyn, gan gynorthwyo i hysbysebu a gweithredu dulliau ffermio gwell. Oherwydd ei bwl o'r ddarfodedigaeth nid oedd modd iddo ymuno â'r lluoedd arfog. Roedd llawer o'i waith yn y cyfnod hwn ar ffilm 35mm, wedi'i dynnu ar gamera Leica 111B a brynodd yn Ionawr 1939. Yn anffodus collwyd y rhan fwyaf o'i ffotograffau cynnar. Cafodd rhai eu taflu wrth glirio'r tŷ yng Nghroesoswallt yn 1939 ac eraill eu llosgi mewn tân yn Wrecsam. Ond mae digon wedi goroesi i roi cofnod nodedig o'r ffrynt cartref yng nghanolbarth Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ailgydiodd o ddifrif yn ei waith i'r Cymro ar ôl y rhyfel pan benodwyd John Roberts Williams yn olygydd. Yn fuan iawn roedd eu gwaith yn rhagori ar unrhyw ffoto-newyddiaduraeth arall yng Nghymru. Ei waith mwyaf adnabyddus yw'r ddelwedd o'r bardd gwlad Carneddog a'i wraig pan orfodwyd iddynt adael eu fferm ar fynyddoedd y Carneddau yn 1945 yn sgil marwolaeth eu mab. Ni fu i'r un ffotograff gydio yn nychymyg y Cymry fel y gwnaeth hwn. Amrywiai ei bynciau'n fawr, o gneifio defaid i longau, o baffio i wenynyddiaeth ac o geir i gwryglau. Yn ystod y cyfnod hwn cofnododd ei waith lawer mwy na digwyddiadau a phersonoliaethau - fesul darn a fesul llun datgelir ffordd o fyw sydd wedi diflannu bellach - y gweision fferm yn byw yn y Llofft Stabal, y postmon yn dylifro llythyron ar gefn ceffyl neu'r hen chwarelwr yn arddangos y ‘car gwyllt’. Dyfodiad y trydan i bentrefi diarffordd, ysbryd milwriaethus newydd yn yr ymgyrch dros yr iaith Gymraeg, y chwyldro mecanyddol mewn amaeth - cofnodir hyn oll yn ei waith. Ymhlith ei ffotograffau mwyaf eiconig y mae'r rhai a dynnwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Yn ystod y blynyddoedd wedi'r rhyfel arbrofodd hefyd gyda ffilm sine, a'r uchafbwynt yn hynny o beth oedd ei gywaith gyda John Roberts Williams a Cynan -‘Yr Etifeddiaeth.’ Saethwyd y ffilm mewn du a gwyn a chafodd ei dangos am y tro cyntaf yn y Gymraeg a'r Saesneg (dan y teitl ‘The Heritage’) yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949. Ymhlith ei ffilmiau eraill y mae Tir Na Nog a ffilmiwyd yn Iwerddon; Y Cymro - ffilm am argraffu; taith ddiwylliannol i Sbaen dan Franco yn 1949 a buddugoliaeth tîm pêl-droed Cymru dros Wlad Belg, hefyd yn 1949.

Mae'r lluniau a dynnodd am achos Tryweryn yn haeddu sylw arbennig. Am gyfnod byr roedd Cymru'n dal ei hanadl. A fyddai'r gymuned yn cael byw, ynteu a fyddai'n boddi dan gronfa newydd i roi dŵr i Lerpwl? Boddi a wnaeth y pentref, ond nid cyn i Geoff dynnu cyfres deimladwy o ddelweddau a gofnododd ffordd o fyw a chymuned a ddiflannodd yr un pryd.

Ymddeolodd Geoff Charles yn 1975 ond daliodd ati i gyfrannu erthyglau a ffotograffau i'r Cymro a'r Farmers Weekly ar ei liwt ei hun. Yn nes ymlaen rhodddodd ei gasgliad o dros 120,000 o negatifau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a chynorthwyo gyda'r dasg enfawr o'u catalogio a'u mynegeio. Bu ei waith yn destun dwy arddangosfa fawr yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 1984 a 1995. Roedd gweld syndrom y finegr yn dechrau effeithio ar rai o'i negatifau cynnar yn sbardun i fynd ati i ddigido'r casgliad cyfan, ac mae'r rhain bellach ar gael trwy wefan y Llyfrgell . Yn 1985 derbyniwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanbedr Pont Steffan dan yr enw ‘Sieffre o Brymbo’.

Priododd eilwaith yn 1986, â Doris Thomas (1909-2000) a symudodd i'r Rhyl. Yn ei flynyddoedd olaf roedd ei olwg diffygiol yn ofid mawr iddo. Bu farw ar 7 Mawrth 2002, a chynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Amwythig ar 19 Mawrth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-02-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/